Zuzana yw ein cymhorthydd newydd ar gyfer Academi Arweinwyr y Dyfodol. Bydd hi’n helpu gyda threfnu'r Digwyddiad Graddio ar gyfer ein carfan 3.0 sydd bron â gorffen a gydag unrhyw beth o olygu fideos i unrhyw beth gweinyddol. Mae Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn recriwtio ac yn cefnogi pobl ifanc o bob rhan o Gymru. Mae’n helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sydd wedi’u hailgysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ogystal â datblygu ei sgiliau arwain. Mae gan Zuzana ddiddordeb mawr mewn ymgysylltu â phobl ifanc yn y sgwrs a’r penderfyniadau a wneir. Mae Zuzana wrth ei bodd yn chwarae’r gitâr a chanu yn ei hamser rhydd, ac mae hi hefyd wrth ei bodd yn darllen a gwrando ar nifer lawer o bodlediadau. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn gweithio fel Cydlynydd Gorsaf ar gyfer Radio Platfform, sef gorsaf gymunedol elusennol, wedi’i leoli ym Mhorth yng Nghymoedd y Rhondda, gyda chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’n dwli ar deithiau cerdded yn y byd natur, dawnsio a myn i gigs byw a threulio amser gyda’i theulu.