Mae Cyngor yng Nghymru wedi cyhoeddi cynlluniau i archwilio taliad sy’n defnyddio ffyrdd i helpu i ariannu bysiau £1, rhwydwaith tramiau newydd a system drafnidiaeth lanach, wyrddach, a mwy modern.

Bydd adroddiad yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd dydd Iau, Ebrill 27, a gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.

“Mae angen atebion beiddgar ar frys i helpu pobl i symud o orddibyniaeth ar geir – fel bod pob un ohonom yn gallu byw bywydau gwell ac fel bod gennym Gymru fyw i’n plant a’n hwyrion.” 

“Rwy’n croesawu cynlluniau Cyngor Caerdydd i weithio gyda thrigolion i archwilio ffyrdd arloesol o gefnogi’r newid hwn i deithio mwy gwyrdd, er mwyn gweld Cymru iachach, ffyniannus a mwy cyfartal.  

“Byddwn yn disgwyl gweld ymgyfraniad ystyrlon â chymunedau a gwasanaethau cyhoeddus eraill, a chynllun sy’n lleihau annhegwch fel bod gan bawb fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus gwell ac opsiynau teithio llesol, gan weld manteision aer glanach.” 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio er mwyn sicrhau gwell lles i bobl sy’n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.  

Mae’r comisiynydd newydd yn gweithio gyda phobl a sefydliadau gan gynnwys cyrff cyhoeddus, ar gynllun ar gyfer gwaith ei swyddfa yn y dyfodol. Bydd gwybodaeth yn cael ei rannu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, a gallwch gael gwybod mwy am Ffocws Ein Dyfodol yma.