Mae cefnogi gweithredu hinsawdd gymunedol yn hanfodol os yw cynghorau lleol am helpu Cymru i gyrraedd sero net, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol heddiw. [Dydd Mawrth, Mawrth 5.]

Two young children playing on a push scooter in a closed street
Trigolion yn y Barri yn ymuno â Strydoedd Chwarae – lle mae traffig ar gau i draffig am ddwy awr un dydd Sul y mis. Mae’n enghraifft o’r ffordd y mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn dweud y gall cynghorau gefnogi gweithredu hinsawdd gymunedol i helpu Cymru i gyrraedd sero net.

Dywedodd Derek Walker wrth awdurdodau lleol fod ganddyn nhw’r pŵer i greu newid cyfunol sylweddol, os ydyn nhw’n galluogi ac yn dileu rhwystrau rhag rhai o’r bobl a’r grwpiau angerddol sy’n gwneud gwahaniaeth ledled Cymru. 

Wrth siarad mewn digwyddiad, anogodd Mr Walker bob awdurdod lleol i ymuno â’r fenter Ras i Sero a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig sy’n anelu at haneru allyriadau byd-eang niweidiol erbyn 2030 ac adeiladu dyfodol gwell sy’n iachach, yn wyrddach ac yn decach. 

Bydd sero net yn digwydd pan nad yw’r swm o garbon a ychwanegwn i’r atmosffer yn fwy na’r swm a dynnir, hy nid yw newid hinsawdd bellach yn cael ei achosi gan weithgarwch dynol. 

Mae tua hanner Cymru ar lwybr i ymuno â Ras i Sero gan gynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, tri pharc cenedlaethol Cymru, rhai awdurdodau lleol, a busnesau. 

Allan o 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae 19 wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae gan y mwyafrif gynllun gweithredu hinsawdd. Yn ymarfer cerdyn sgorio 2021 Climate Emergency UK, cafodd cynlluniau gweithredu hinsawdd awdurdodau lleol Cymru sgôr cyfartalog o 31%, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 50%. 

Yn dilyn arweiniad cenhadaeth hinsawdd newydd parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Dyfodol y Bannau, mae hyrwyddwyr hinsawdd mewn cymunedau lleol ar draws yr ardal wedi ffurfio Ras Gymunedol Bannau Brycheiniog i Sero fel partneriaeth ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd y rhwydwaith cymunedol yn canolbwyntio ar ynni, bwyd, a thrafnidiaeth gyhoeddus gyda’r nod o ddatgarboneiddio tra hefyd yn lleihau costau byw i bobl leol. Mae prosiectau’n ymwneud â chynhyrchu ynni sy’n eiddo i’r gymuned, gan greu 1,200 erw o dyfu bwyd lleol a systemau trafnidiaeth leol di-garbon. 

Ym Mhowys, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn alinio ei waith gyda Ras i Sero ac yn datblygu fforwm rhanddeiliaid lleol i ddod â busnesau, Cynghorau Tref a Chymuned, ffermwyr, grwpiau cymunedol ac eraill ynghyd i fod yn fwrdd seinio ar gyfer cynllun gweithredu ar yr hinsawdd sy’n dod i’r amlwg ledled y sir. 

Daeth y comisiynydd ag awdurdodau lleol ynghyd i archwilio sut y gall Ras i Sero helpu Cymru i gyflawni’r nod ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’ sydd wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a bod yn fframwaith ymarferol i gefnogi newid cadarnhaol ym mhob rhan o Gymru. 

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd ei strategaeth Cymru Can, yn ymrwymo i gefnogi’r sector cyhoeddus i gyflawni’r uchelgais sero net erbyn 2030 yn Sero Net Cymru tra hefyd yn cefnogi’r llwybr i Gymru natur gadarnhaol erbyn 2030. 

Mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i adrodd ar eu hallyriadau gweithredol eu hunain bob blwyddyn drwy fframwaith adrodd Llywodraeth Cymru, ond rhan fach yn unig o’r darlun yw hyn. Mae gan Ras i Sero ddull ehangach seiliedig ar ardal sy’n edrych ar allyriadau ar draws ardaloedd cyfan. 

Dywedodd Mr Walker fod cyrff cyhoeddus mewn sefyllfa unigryw i lunio a dylanwadu ar ddyfodol Cymru drwy weithio gyda chymunedau a busnesau lleol a denu buddsoddiad wedi’i deilwra i anghenion lleol. 

Dywedodd: “Mae cyrraedd sero net, sy’n hanfodol ar gyfer planed y gall ein plant a’n hwyresau fyw ynddi, yn gofyn am ymdrech tîm. 

“Mae sut rydyn ni’n symud o gwmpas ein hardal leol, sut rydyn ni’n bwydo ein hunain a’n teuluoedd neu’n gwresogi ein cartrefi, i gyd yn cael effaith sylweddol yn y math o Gymru a’r byd a gawn yn y dyfodol, a rhaid i bawb fod yn barod i gydweithio, ac mae cynnwys pobl yn Ras i Sero yn allweddol i ddod o hyd i atebion sy’n gweithio. 

“Rwy’n clywed yn gyson gan gymunedau sydd am gael eu grymuso i weithredu ar y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw – ac mae newid hinsawdd i fyny yna ar frig y rhestr honno, ac mae ganddyn nhw’r prosiectau a’r syniadau a all gefnogi’r cynnydd mewn maint a chyflymder sydd ei angen arnom ledled Cymru. 

“Mae cyrff cyhoeddus gan gynnwys cynghorau lleol dan bwysau, felly fy neges iddynt yw ystwytho eu cyhyrau ac annog gweithredu sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd i ddigwydd yn ein cymunedau – boed hynny’n darparu darn o dir ar gyfer plannu neu dyfu bwyd, galluogi cynlluniau ynni cymunedol, cefnogi teithio llesol diogel, hygyrch neu ymgysylltu â rhwydweithiau busnes lleol i gefnogi economi leol, wyrddach. 

“Drwy ein trefniadau partneriaeth rhanbarthol, mae gennym eisoes y strwythurau ar waith ar gyfer y dull hwn o weithio sy’n seiliedig ar ardal. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw, ein cymunedau a busnesau yng Nghymru i gyrraedd sero net yn gyflymach. Does dim amser i’w golli.”

Mae’r comisiynydd yn gofyn i gynghorau lleol, trwy Gyd-bwyllgorau Corfforaethol ymuno â Ras i Sero. Gallwch ddarganfod mwy yma

Astudiaeth Achos - Mae peilot Strydoedd Chwarae yn galluogi plant i chwarae gyda chymdogion, wrth helpu yn y ras i sero net

Unwaith y mis, mae gan blant y Barri rediad y ffordd. 

Fel rhan o gynllun peilot, mae dwy stryd ar gau i draffig am ddwy awr ar un dydd Sul y mis, fel y gall plant feicio, sgwtera, cymdeithasu a chwarae. 

Mae Strydoedd Chwarae, neu sesiynau Chwarae Allan, yn achosion o gau ffyrdd dros dro dan arweiniad cymdogion, sy’n boblogaidd ledled y DU, gan greu lle diogel i blant chwarae’n rhydd gyda’i gilydd ar garreg eu drws. 

Mae tîm Chwarae’r Fro Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio gyda Chwarae Cymru a thrigolion i gau strydoedd ar gyfer chwarae awyr agored mewn dau leoliad yn y Barri. 

Mae’n hysbys bod yna fanteision iechyd a llesiant ataliol hirdymor wrth gymryd rhan mewn chwarae a’r gobaith yw y bydd Strydoedd Chwarae yn helpu i wella ansawdd aer trwy leihau allyriadau carbon yn ystod y cyfnod cau ffyrdd, gan gyfrannu at fenter Prosiect Sero y cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. 

Rhoddir arwyddion, gwisg uwch-vis, cit chwarae bach, a chardiau gwybodaeth i breswylwyr er mwyn cau’r ffordd. Pe bai’r rhaglen beilot yn llwyddiannus, gellid ymestyn y broses o gau ffyrdd ar gyfer chwarae i strydoedd cymwys ledled y Fro.  

Young girl playing hopscotch on a closed road
Fel rhan o gynllun peilot, mae dwy stryd ar gau i draffig am ddwy awr ar un dydd Sul y mis, fel y gall plant feicio, sgwtera, cymdeithasu a chwarae.

Dywedodd Aoife Blight, preswylydd sy’n cydlynu un o’r sesiynau, fod y cynllun peilot wedi bod yn ‘drawsnewidiol’ i’w chymdogaeth. 

Roedd y fam i ddau o blant wedi bod yn rhedeg Strydoedd Chwarae anffurfiol, dros dro am fisoedd cyn i’r cynllun ddechrau, ac wedi ymgysylltu â chymdogion, yn ysgrifennu llythyrau a chael cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein i fesur y galw a’r gefnogaeth ar gyfer ymwneud â’r peilot. 

Dywedodd: “Rwyf mor hapus i ddweud bod pawb y tu ôl i’r syniad ac wedi cofleidio’r cyfan. 

“Mae’r gofod di-draffig yn golygu bod gan y plant y rhyddid i grwydro’u stryd yn ddiogel a chael anturiaethau bach gyda’u cymdogion. 

“Rydym wedi gweld plant yn dysgu beicio, datblygu eu sgiliau sglefrfyrddio a sglefrio, tynnu lluniau sialc hardd ar y ffordd, rhannu bwyd (go iawn a dychmygol) ac yn gyffredinol dim ond cael hwyl gyda’r rhai maen nhw’n tyfu i fyny gyda nhw. 

“Mae fy mhlant yn edrych ymlaen yn fawr iawn a minnau hefyd – mae’n gyfle gwych i’n cymuned ddod at ein gilydd a dod i adnabod ein gilydd hefyd. 

“Nawr, pan welwn ni gymdogion ar y stryd, mae pobl yn aml yn stopio am sgwrs, yn hytrach na dim ond gwên frysiog. 

“Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i ddod allan i chwarae ac rydym yn mawr obeithio y gall y cynllun hwn barhau a lledaenu i fwy o strydoedd ar draws Bro Morgannwg.” 

Dywedodd Joanne Jones, Uwch Swyddog Byw’n Iach yng Nghyngor Bro Morgannwg: “Mae’r prosiectau peilot Stryd Chwarae wedi cael effaith enfawr ar eu cymunedau, nid yn unig yn cynyddu cyfleoedd i blant chwarae ond hefyd i gymdogion o bob oed ddod at ei gilydd.   

“Mae’r tîm yn gyffrous am y posibilrwydd o gefnogi mentrau tebyg mewn mannau eraill yn y Fro erbyn hyn. 

Young children and older woman playing cricket in closed road
“Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i ddod allan i chwarae ac rydym yn mawr obeithio y gall y cynllun hwn barhau a lledaenu i fwy o strydoedd ar draws Bro Morgannwg.”

NODIADAU I OLYGYDDION

Ras i Sero yw’r glymblaid fyd-eang fwyaf o endidau anwladwriaethol sydd wedi ymrwymo i gamau gweithredu uchelgeisiol sy’n cyd-fynd â chyfyngu ar gynhesu byd-eang i 1.5 gradd, gyda’r nod o dorri allyriadau byd-eang yn ei hanner erbyn 2030. Mae Ras i Sero Cymru yn ceisio gosod Cymru fel y genedl Ras i Sero gyntaf, gan gynnull pob rhan o gymdeithas Gymreig, gan gynnwys pob lefel o lywodraeth, a sefydliad, tuag at gyflawni nodau hinsawdd beiddgar. 

Mae’r glymblaid wedi denu dros 11,000 o aelodau anwladwriaethol, gan gynnwys 8,307 o gwmnïau, 595 o sefydliadau ariannol, 52 rhanbarth, 1,136 o ddinasoedd, 1,125 o sefydliadau addysgol, 65 o sefydliadau gofal iechyd, a 29 o sefydliadau eraill, i gyd yn unedig yn y nod o leihau allyriadau byd-eang 50% erbyn 2030. 

Mae Cymru, ynghyd â’r Alban, yn cymryd rhan yn Ras i Sero drwy’r Glymblaid Dan2, sy’n cynnwys gwledydd a sefydliadau sydd ag uchelgeisiau hinsawdd uchel. Ymhlith y llofnodwyr ar y llwybr i ymuno mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cwmpasu 10 o 22 awdurdod lleol Cymru. 

Gwerthusodd Climate Emergency UK holl gynghorau’r DU ar eu cynnydd tuag at sero net, gan ddefnyddio Cerdyn Sgorio yn seiliedig ar hyd at 91 o gwestiynau ar draws saith categori, a ddatblygwyd gyda mewnbwn gan dros 90 o sefydliadau ac unigolion. Cafodd pob cyngor sgôr a rhoddwyd cyfle iddynt ymateb cyn adolygiad terfynol o’r sgorau, gyda’r gwerthusiad hwn yn digwydd rhwng Ionawr ac Awst 2023. 

Mae Cymru yn sefyll allan yn fyd-eang gyda’i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, sy’n cefnogi ac yn herio cyrff cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, byrddau iechyd, a Llywodraeth Cymru, i ystyried cenedlaethau’r dyfodol wrth fynd i’r afael â heriau presennol.  

Ym mis Tachwedd 2023, cyflwynodd y comisiynydd strategaeth Cymru Can, gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol: gorfodi’r ddeddfwriaeth yn effeithiol, mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur, hybu atal iechyd, meithrin economi llesiant, a diogelu diwylliant ac iaith Cymru. 

Mae Cymru wedi gweld newidiadau sylweddol o dan saith nod llesiant y Ddeddf, megis canslo prosiect traffordd gwerth £1.4bn i warchod gwarchodfa natur, gan arwain at strategaeth drafnidiaeth newydd, gweithredu cwricwlwm ysgol blaengar, ac ailddiffinio ffyniant i flaenoriaethu gwaith gwyrdd, carbon isel a theg dros dwf CMC. Mae’r dull hwn wedi ennyn sylw ac ysbrydoliaeth ar draws y byd, o’r Cenhedloedd Unedig i wledydd fel Iwerddon a Japan.