Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn chwilio am gynigion oddi wrth ddarparwyr gwasanaethau i helpu i gyflawni Theori Newid

Context W

Mae cylch gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn eang – mae’n cwmpasu pob maes a allai effeithio ar lesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae adnoddau’r swyddfa, fodd bynnag, yn gyfyngedig, ac mae angen i ni ffocysu ein gwaith lle gallwn ysgogi’r newid mwyaf ar draws pob dimensiwn llesiant a phob un o’r saith nod llesiant fel y maent wedi eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Ymgymerodd y Comisiynydd blaenorol, Sophie Howe, ag ymarfer eang i flaenoriaethu ei gwaith ar ddechrau ei thymor yn y swydd. Arweiniodd hyn at chwe blaenoriaeth polisi – Cynllunio Defnydd Tir, Trafnidiaeth, Tai, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Gwell Dulliau o Gadw Pobl yn Iach (newid system iechyd), a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol.  

Rydym mewn lle gwahanol i’r man lle’r oeddem yn 2016. Mae gennym fwy o brofiad a deunyddiau i fanteisio arnynt yn nhermau materion allweddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; a thystiolaeth am ble y gallwn ychwanegu gwerth, ble ddylem ffocysu ein hymyriadau a sut i ysgogi newid yn y dull gorau posib. 

Gan adeiladu ar yr wybodaeth hon, mae’r Comisiynydd newydd, Derek Walker, wedi cychwyn ar ymarfer ymgyfrannu tebyg wrth sefydlu eu flaenoriaethau ar gyfer ei derm saith-mlynedd. Ffocws Ein Dyfodol rydym yn galw hwn. Bydd yr ymarfer hwn yn parhau am oddeutu chwe mis, ac rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi ein cynlluniau ym mis Hydref. Byddwn hefyd yn edrych i’r hirdymor, i osod ein cynllun gwaith o fewn gweledigaeth sy’n mynd tu hwnt i’r saith mlynedd nesaf. Bydd y cynllun yn cynnwys set glir o ddangosyddion a mesurau llwyddiant ac fe fydd yn dryloyw am ein rhesymau dros ein dewisiadau a pha rôl y byddwn yn ceisio ei chwarae wrth wireddu’r canlyniadau yr ydym yn dymuno eu cyflawni.  

Bydd allbynnau’r ymarfer hwn hefyd yn cael eu hintegreiddio’n glos gyda’n gwaith presennol a chyfredol ac yn adeiladu arno, llawer ohono’n ofyniad statudol a bydd angen iddo barhau mewn rhyw ffurf. Rydym hefyd wedi sefydlu cynllun gwaith interim ar gyfer 2023, 6 mis o hyd (ein ‘Map Llwybr’) a bydd angen i allbynnau Ffocws Ein Dyfodol sefydlu pa rannau o’r gwaith hwn fydd yn parhau, pa rannau y bydd angen rhoi terfyn arnynt neu newid eu ffocws, a pha beth fydd yn waith newydd. Enghreifftiau o waith cyfredol yr ydym wedi ymrwymo i’w gyflawni yw ein cymorth parhaus i gyrff cyhoeddus, monitro ac asesu cynnydd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, cyflawni trydydd carfan ein Hacademi Arweinwyr y Dyfodol, a’n gwaith rhyngwladol.  

Y Gofyniad 

Mae’n ofynnol i ni gael sefydliad allanol i weithio gyda’n tîm i gynorthwyo camau olaf Ffocws Ein Dyfodol lle’r ydym yn dadansoddi’r data (sylfaenol ac eilaidd) ac yn datblygu strategaeth (gan ddefnyddio methodoleg theori newid) wrth i’n gwaith fynd yn ei flaen (2023-2030).  

Bydd y gwaith hwn, a gomisiynwyd, yn rhoi eglurder ar ba faterion, ymddygiadau a meysydd polisi a allai fod y mwyaf defnyddiol i ni ffocysu arnynt (y ‘beth’) yn ogystal â sut y byddwn yn gweithio gydag eraill (cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill), i hwyluso newid (y ‘sut’). Er enghraifft, pa fath o ymyriadau a fyddai’n fwyaf effeithiol a ble mae ein gwerth ychwanegol ar fater penodol. Rydym hefyd yn dymuno herio ein hunain bob amser i fyw’r bregeth a bod yn esiampl dda wrth i ni ein hunain roi’r Ddeddf ar waith yn ein hymddygiad a’n gweithrediadau.  

Timeframe

Bydd y rhan fwyaf o ymgyfraniad a dadansoddiad desg ein rhanddeiliaid wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf, a byddai’n ofynnol i ni bod y darparydd llwyddiannus ar gael o fis Awst hyd ddechrau mis Medi i ymgymryd â’r brif dasg o ddatblygu’r gweithrediadau mwyaf effeithiol y gall ein swyddfa ymgymryd â hwynt o fewn y model Theori Newid, ac o fewn cwmpas ein dyletswyddau a’n pwerau.  

Fodd bynnag, byddem yn hoffi cychwyn gweithio gyda’r darparydd yn ystod mis Gorffennaf (neu o bosib yn gynharach ym mis Mehefin), i sicrhau y bydd y modd yr ydym yn dadansoddi ein data yn cyflwyno’r allbynnau sydd eu hangen ar gyfer datblygu’r Theori Newid a’n bod yn medru rhoi peth gwybodaeth/hyfforddiant ar Bwerau a Dyletswyddau’r Comisiynydd. Efallai y bydd rhywfaint o fudd wrth gynnal gweithdy cynnar gyda staff (cyfarfod tîm ar 20fed Gorffennaf) i archwilio’r model theori newid, a chasglu meddyliau a syniadau oddi wrth y tîm a allai gyfrannu at y broses.  

Mae dau ddiwrnod i ffwrdd pellach wedi eu cynllunio ar gyfer y tîm ar 12-13 Medi lle byddem yn croesawu’r darparydd i fod yn bresennol i gyflwyno argymhellion cychwynnol eu gwaith a hwyluso gweithdy gyda’r staff i gyfrannu at a mireinio’r cynnych terfynnol.  

Gyda chynnyrch terfynol i fod yn barod erbyn 29ain Medi.  

Dyddiadau Allweddol:  

Gwerthwch i Gymru yn mynd yn fyw  Dydd Mawrth, 6ed Mehefin
Dyddiad cau ar gyfer y cais    Dydd Mawrth, 20fed Mehefin 
Penodi ymgeisydd llwyddiannus   Dydd Mawrth, 27ain Mehefin 
Dechrau’r contract   Llun, 3ydd Gorffennaf 
Sesiwn gyda’n Uwch Dîm Arwain  Dydd Mawrth, 18fed Gorffennaf 
Diwedd y contract   Gwener, 23ain Medi 

Gwybodaeth bellach am Ffocws Ein Dyfodol 

Fel rhan o Ffocws Ein Dyfodol, rydym eisoes wedi dadansoddi ystod eang o ddata eilaidd i ddeall tueddiadau’r dyfodol a’r heriau sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol a byddwn yn parhau i werthuso data eilaidd a rennir gyda ni gan ein rhanddeiliaid (Mai-Mehefin), yn ychwanegol at ffynonellau data eraill yn cynnwys, er enghraifft, wybodaeth yn deillio o asesiadau llesiant byrddau gwasanaethau cyhoeddus.  

Rydym wedi cynnal cyfres o ymarferion rhagwelediad gyda staff a rhanddeiliaid allanol ac rydym yn casglu data sylfaenol drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys ystod eang o gyfarfodydd a digwyddiadau gyda rhanddeiliaid. Fe fyddwn yn dadansoddi’r wybodaeth hon fel tîm dros yr ychydig fisoedd nesaf ac rydym yn bwriadu allosod rhai themâu lefel uchel a rhagdybiaethau am yr hyn sydd ei angen i gyrff cyhoeddus, ac eraill, ei wneud ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; yn ystyried rhwystrau cyfredol, beth yw’r gweithrediadau a’r camau sydd angen i gyrff cyhoeddus ac eraill eu cymryd i gyrraedd y nod; a ble gall ein swyddfa gynorthwyo, yn y dull gorau posib, gyrff cyhoeddus ac eraill yn yr ymdrech hon. Isod wele rai enghreifftiau o’r hyn yr ydym wedi eu clywed drwy ymgyfraniad, er bod yn rhaid nodi bod hyn yn deillio o drafodaeth gychwynnol, (nad yw wedi ei chwblhau). 2 

Yr hyn sydd angen i gyrff cyhoeddus (ac eraill) ei wneud i wella llesiant: 

  • Mae cenedlaethau’r dyfodol angen i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ysgogi economi llesiant. 
  • Dylai cymunedau gyfrannu mwy mewn penderfyniadau a chyd-ddylunio gwasanaethau a llunio Cymru ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus. 
  • Mae Cymru’n cael ei gweld fel un sy’n arwain y byd mewn llesiant. 
  • Mae cenedlaethau’r dyfodol angen gwasanaethau cyhoeddus holistig, integredig a chynaliadwy. 

Gallai’r newidiadau sydd eu hangen i’n harwain ni yno gynnwys: 

  • Mae angen i’r sector cyhoeddus gael tirwedd partneriaeth gryfach a chliriach i ganiatáu iddynt weithio’n fwy effeithiol gyda sectorau eraill ar bob dimensiwn o lesiant. 
  • Mae angen i ganfyddiadau newid fel bod ymdrechion i ysgogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu gweld fel rhai hollbwysig yn hytrach nag fel rhai ‘braf i’w cyflawni os oes amser ac arian ar ôl’.  
  • Mae angen i gyrff cyhoeddus fabwysiadu diwylliant o fenter ac uchelgais dwys. 

 

Gallai gweithrediadau y bydd angen i’n swyddfa eu cyflawni i gefnogi cyrff cyhoeddus, o bosib, gynnwys:  

  • Penderfynu gyda chyrff cyhoeddus beth allai natur economi llesiant fod a llwybr tuag at ei gyrraedd. 
  • Helpu i leihau cymhlethdod a dwyn peth o’r baich oddi ar ysgwyddau cyrff cyhoeddus a strwythurau partneriaeth. 
  • Symud ein perthynas oddi wrth dalu sylw i gynnydd ar y Ddeddf tuag at arwain y ffordd tuag at gynaliadwyedd. 

 

Tasgau 

  • Gan ddefnyddio’r wybodaeth o’n hymchwil desg, ymarferion rhagwelediad ac ymarfer ymgyfrannu, helpwch ni i ddatblygu gweledigaeth hirdymor o’r hyn yr hoffem ei gyflawni fel swyddfa o fewn amserlen 25-30 mlynedd. Byddai hyn yn cynnwys gweithio gyda’n his-grŵp dadansoddi data ac ymgorffori methodoleg/meini prawf ar gyfer blaenoriaethu pynciau a materion yn deillio o’r data.  
  • Gan ddefnyddio’r wybodaeth o’n hymchwil desg, ein hymarfer rhagwelediad ac ymgyfrannu, helpwch ni i ddatblygu canlyniadau cyrraeddadwy a Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer y 7 mlynedd nesaf.  
  • Gan ddefnyddio’r wybodaeth o’n hymchwil desg, a’n hymarfer ymgyfrannu, helpwch ni i adeiladu Theori Newid i’n dwyn o’r presennol hyd 2030 (diwedd term y Comisiynydd). 
  • Helpu ni i ganfod y camau mwyaf effeithiol y gallwn eu cymryd fel swyddfa a fyddai’n arwain at y newid mwyaf ar draws Cymru a’r byd – byddem yn hoffi i hyn gynnwys sesiwn i roi prawf ar y Theori Newid gydag aelodau o’n tîm arweinyddiaeth, yn ogystal â nifer o sgyrsiau/gweithdai gyda’r tîm cyfan, a’r un olaf i gael ei gynnal yn ystod ein deuddydd i ffwrdd a gynllunnir ar gyfer mis Medi.  
  • Sicrhau bod barn ac arbenigedd y tîm cyfan yn cael eu hystyried yn yr ymarfer hwn – drwy sgyrsiau unigol a sesiynau grŵp.  
  • Datblygu’r cynnyrch terfynol – gweledigaeth, Theori Newid a Dangosyddion Perfformiad Allweddol – erbyn 29ain Medi 2023. 

Outputs

  • Gweledigaeth hirdymor 25-30 mlynedd o’r hyn yr hoffem ei gyflawni fel swyddfa. 
  • Strategaeth seiliedig ar Theori Newid a fydd yn sylfaen i’n rhaglen waith ar gyfer y 7 mlynedd nesaf, yn seiliedig ar weledigaeth tymor hwy (gweler uchod), ac a fydd yn cynnwys manylion ar y mathau o fewnbynnau, wedi eu cysylltu ag allbynnau cyraeddadwy, ac argymhellion am set o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y gallwn fesur cynnydd yn ei herbyn. Gallai hyn o bosib gael ei seilio ar fodel strategaeth seiliedig-ar-genhadaeth, gyda theorïau newid unigol, ond rydym yn agored i dderbyn mewnbwn ar gyfer llunio ein hymagwedd at y modd y bydd y strategaeth yn cael ei llunio. 
  • Cyfres o gyfarfodydd trafod gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (18fed Gorffennaf) am arweiniad cychwynnol a 5 Medi am gasgliadau cychwynnol) a gyda’r tîm cyfan (sesiwn wybodaeth 20 Gorffennaf, ym Machynlleth am drafodaeth fanwl tîm cyfan ar yr argymhellion. 

Cyllideb 

Rydym yn edrych am gynigion i fyny at £20,000 (yn cynnwys TAW). 

Gall y bydd angen i ni ehangu cwmpas y tendr yn dilyn trafodaeth a chytundeb gyda’r ymgeisydd llwyddiannus os y canfyddir angen yn ystod gweithredu’r prosiect, a bod hyn yn cael ei ystyried yn angenrheidiol ar gyfer cwblhau prosiect Ffocws Ein Dyfodol. 

Eich cynnig 

Dylai eich cynnig gynnwys: 

  • Methodoleg fanwl o’r modd y byddech yn defnyddio ein tystiolaeth a’n hymgyfraniad i gynllunio Theori Newid. 
  • Disgrifiad o’r modd y byddech yn defnyddio ein tystiolaeth a’n hymarferion rhagwelediad, ac unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gallwch ei chyrchu yr ydych yn teimlo ei bod yn berthnasol, a’i throi yn gamau a chanlyniadau posib ar gyfer ein swyddfa, gan ffocysu yn arbennig ar y modd y byddech yn gwneud y Pum Dull o Weithio yn rhan annatod o’ch hymagwedd, a’r modd y byddech yn sicrhau bod effaith ar draws y saith nod llesiant yn cael ei facsimeiddio. 
  • Crynodeb o unrhyw dystiolaeth neu ymchwil a allai fod gennych, sydd, yn eich barn, yn berthnasol i’r ymarfer hwn a’r modd y gallai hyn gael ei ymgorffori yn y prosiect.  
  • Awgrymiadau ar natur posib y gweithdy gyda’r tîm. 
  • Gwybodaeth am y modd yr ydych yn bwriadu cyflwyno eich canfyddiadau i ni mewn dull hygyrch ac ymarferol. 
  • Gwybodaeth am unrhyw gynlluniau ar gyfer ymgyfrannu a chydweithio a allai yn eich barn eich helpu chi gyda’r dasg hon, yn ogystal â’r pum dull o weithio a nodir yn y Ddeddf (hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio ac ymgyfrannu). 
  • Eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o gynaliadwyedd a’r cyd-destun Cymreig. Er enghraifft, y dirwedd bartneriaeth, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a datganoli. 
  • Eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r dirwedd polisi a chyflawni yng Nghymru. 
  • Dadansoddiad o’r costau a’r amser a ragwelir y bydd ei angen ar gyfer y gwaith hwn. 
  • Dadansoddiad llawn o’r gyllideb gan gynnwys cyfraddau dyddiol gan nodi a ydyw TAW yn berthnasol. 

Dylai eich cynnig nodi eich: 

  • Profiad o ddadansoddi llawer iawn o wybodaeth i ffurfio casgliadau bras. 
  • Profiad o ddylunio cynlluniau ac/neu bolisïau. 
  • Profiad o ddatblygu Theori Newid. 
  • Unigolion a fydd yn gweithio ar y prosiect hwn. 

Sgorio 

Bydd ein sgorio yn seiliedig ar dair prif elfen. Bydd pob un o’r rhain y cynnwys traean o gyfanswm y sgôr. Y dair elfen yw: 

  • Cost – dylid cynnwys cyllideb fanwl yn y cynnig a bydd yn cael ei sgorio yn unol â hynny. 
  • Arbenigedd a phrofiad – ymagwedd at y tasgau a amlinellir uchod, yn cynnwys amserlen ar gyfer eu cyflwyno. Dylid cynnwys tystiolaeth o gymwysterau, arbenigedd, profiad gan ymgorffori ymarferion rhagwelediad neu waith blaenorol llwyddiannus o natur tebyg, i’n helpu wrth wneud penderfyniadau. 
  • Cynaliadwyedd – i’n helpu i sicrhau gwerth gorau am arian ynghyd â’r manteision ehangaf i lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, hoffem i chi hefyd ateb i eithaf eich gallu y cwestiynau yn y Tabl isod.  

Tabl Cynaliadwyedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: 

Pwnc  Ateb  Gwybodaeth/Tystiolaeth 
A ydych yn dilyn cyflogaeth foesegol ac arferion cynaliadwy yn eich gweithrediadau ac yn eich cadwyni cyflenwi?       
A oes gennych ardystiadau cynaliadwy sefydliadol?       
A yw eich sefydliad yn sefydliad di-garbon a sut ydych chi’n cyfyngu ar eich allyriadau yn eich teithio, ynni, pensiynau a chaffael?       
A yw eich sefydliad yn ddi-bapur a diwastraff?       
A yw eich cynnyrch neu ddeunyddiau yn dod o ffynonellau lleol a chynaliadwy, yn cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu?       
A yw eich deunyddiau’n cael eu cydnabod fel rhai rhydd o wrthdaro gan gynlluniau ardystio annibynnol fel electronicswatch.com a Greenpeace Guide to Electronics?         
● A ydych chi’n sicrhau bod eich sefydliad yn dilyn arferion teg a moesegol gan gynnwys arferion gwrth-gaethwasiaeth a thraffig dynol, masnach deg, stiwardiaeth forol a stiwardiaeth coedwigaeth, B-Corp neu achrediad y Ddraig Werdd?        
A yw eich sefydliad yn gweithredu i leihau tlodi?       
A ydych yn Gyflogydd Cyflog Byw?       
Pa gamau ydych chi wedi eu cymryd, neu yn bwriadu eu cymryd i sicrhau eich bod yn cynnig gwaith teg? Caiff gwaith teg ei ddiffinio fel man lle mae gweithwyr “yn cael eu gwobrwyo’n deg, yn cael gwrandawiad a chynrychiolaeth, yn ddiogel ac yn medru ffynnu mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu”?       
Ydych chi’n cefnogi ac yn ymgymryd â chaffael teg a lleol?       
A ydych chi’n hybu twf cynhwysol?       
A yw eich sefydliad neu gyfarwyddwyr yn perthyn i unrhyw bleidiau gwleidyddol neu unrhyw fuddiannau eraill y dylid eu datgelu fel rhai â’r potensial (canfyddedig neu real) i achosi risg o ragfarn, neu risg negyddol i enw da’r Comisiynydd?       

  

Gwybodaeth bellach 

Os hoffech ofyn cwestiynau neu drafod y tendr hwn, cysylltwch â Petranka Malcheva ar petranka.malcheva@futuregenerations.wales

  • Tudalen Ffocws Ein Dyfodol ar ein gwefan. 
  • Gweithgareddau blaenorol yr ymgymerwyd â hwynt gan ei tîm mewnosod dolen we i Ein Gwaith