Mae'r adroddiad blaenllaw hwn yn rhoi darlun brawychus

Mae Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023 yn datgelu, o’r 3,900 o anifeiliaid, planhigion a ffyngau a archwiliwyd, bod un o bob chwech yn wynebu’r bygythiad o ddiflannu ar y gorwel – gan gynnwys llygod y dŵr, madfallod y tywod a degeirianau y fign galchog.

Mae Cymru’n enwog am ei bywyd gwyllt a’i thirweddau amrywiol, tapestri cyfoethog o rywogaethau sydd wedi ychwanegu bywiogrwydd i’n hamgylchedd naturiol. Heddiw, fodd bynnag, rydym yn wynebu penawdau brawychus. Mae’r cynnydd o 12% o rywogaethau adar sy’n cael eu rhestru’n goch yn 2002 i 27% bellach yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa. Mae rhestr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur yn ddangosydd hanfodol o iechyd bioamrywiaeth y byd.

Mae hwn yn wahoddiad brys i weithredu. Er bod llawer wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng natur hwn, nid ydym yn dal i fod lle mae angen i ni fod. Bydd mynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r hinsawdd yn un o fy mlaenoriaethau pan fyddaf yn lansio fy nghynllun strategol ym mis Tachwedd. Mae gan Gymru gerrig milltir cenedlaethol i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth gyda gwelliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050. Er mwyn cyflawni hyn, galwaf ar bob unigolyn, cymuned a sefydliad yng Nghymru i weithio gyda mi i fynd i’r afael â’r argyfyngau hyn. Mae hon yn llinell amser glir sy’n gofyn am weithredu ar frys.

Rwy’n ymuno â’r Ymddiriedolaeth Natur ac eraill i alw am dargedu polisïau tuag at adfer rhywogaethau, mynd i’r afael â llygredd dŵr, ariannu ffermio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, galluogi cymunedau iach, a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae’n ddyletswydd arnom i genedlaethau’r dyfodol i ddiogelu, gwella a hyrwyddo ein byd naturiol. Heb os, bydd ein taith tuag at y nod hwnnw’n heriol, ond gyda’n gilydd, gallwn greu llwybr at yfory mwy disglair, mwy bioamrywiol.