Mae gordewdra yn fater iechyd a lles cymhleth na all y sector iechyd a gofal cymdeithasol fynd i’r afael ag ef ei hun ac mae’r ffigurau newydd hyn yn peri pryder. 

Mae arnom angen dull gweithredu ataliol cymdeithas gyfan ac i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn well i gadw pobl yn iach, cefnogi pobl i fyw bywydau iach, gyda phob sector yn gweithio gyda’i gilydd i dynnu pwysau oddi ar y GIG. 

Mae cynnwys ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau yn hanfodol wrth i ni ystyried effeithiau gwahanol a niweidiol gordewdra a gwella canlyniadau, gan gynnwys i’n plant a’n pobl hŷn a’r rhai sydd fwyaf agored i niwed. 

Ni fyddwn yn gallu mynd i’r afael â chyfraddau gordewdra cynyddol Cymru heb strategaeth fwyd genedlaethol i Gymru yn seiliedig ar atal afiechyd a thlodi, a galluogi mynediad fforddiadwy i bawb, i fwyd lleol da nad yw’n costio’r ddaear.