Datganiad: Rhaid sicrhau bod cymunedau’n parhau i fod wrth galon polisi 20mya yng Nghymru, wrth i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol rybuddio yn erbyn y tro pedol
“Cymerodd Cymru naid feiddgar wrth ymuno â chenhedloedd eraill y byd a chyflwyno’r newid mewn terfynau cyflymder rhagosodedig i 20mya lle mae pobl yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn chwarae – cam i’r cyfeiriad cywir i symud Cymru o strydoedd lle mae ceir yn dominyddu i strydoedd sy’n teimlo’n ddiogel, cerddedadwy a chyfeillgar.
Tra bod angen gwelliannau i weithrediad y polisi 20mya, mae’n rhaid i les ein cymunedau aros wrth galon y polisi hwn.
Canfu ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod bron i 70% o wrthdrawiadau lle mae plant yn cael eu hanafu yn digwydd ar ffyrdd sydd â chyfyngiad o 30mya. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i lunwyr polisi ddefnyddio mesurau ataliol i ddiogelu llesiant nawr ac yn y dyfodol. Mae yna argyfwng iechyd ac un o bob pump o bobl heb fynediad at gerbyd, mae’n hanfodol felly bod gennym fwy o gymunedau cerddadwy ar gyfer Cymru iachach a mwy cyfartal.
Mae polisi trafnidiaeth yng Nghymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd gwirioneddol ers cyflwyno ein nodau llesiant sy’n arwain y byd. Byddwn yn annog cynghorau i beidio â gwneud tro pedol, i weithio gyda chymunedau a sicrhau pan ddaw’n fater o greu mannau sy’n gwasanaethu pawb yng Nghymru, nad ydym yn cymryd unrhyw gamau yn ôl.”