Mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru newydd gyhoeddi ei strategaeth newydd, Cymru Can.

Yma, mae’n egluro’r camau nesaf a pham y mae’n credu y gall Cymru Can ddefnyddio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wneud Cymru’n well lle i fyw ynddo yn awr, ac i genedlaethau’r dyfodol.

Hen neu ifanc, mae gan bob un ohonom ran yn y dyfodol.

Gall llawer ohonom weithredu mewn dull cyfeillgar tuag at bobl a’r blaned, fel prynu llai o blastig, plannu gardd, rhoi pwysau ar wleidyddion. Ond os yr ydych yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, nid uchelgais yn unig yw bod yn hynafiad da – mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol.

Cymru yw’r unig wlad yn y byd ậ ganddi Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd, mewn gair, yn golygu bod yn rhaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau weithredu heddiw ar gyfer gwell yfory.

Mae’r ddeddfwriaeth unigryw hon yn ennill clod i ni dros y byd i gyd – gan ysbrydoli pawb, o’r Cenhedloedd Unedig i Japan, Iwerddon a’r Alban – ac mae wedi arwain at ddileu traffordd a fyddai wedi peryglu cynefinoedd natur o bwysigrwydd rhyngwladol – o blaid addewidion trafnidiaeth wyrddach, yn ogystal ậ chwricwlwm ysgol blaengar a dull newydd o ddiffinio cynnydd economaidd sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.

Ond, er gwaethaf yr effaith hon, a’r cynnydd mewn arfer da mewn rhai mannau, nid yw’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu mor gyflym nac ar y raddfa sydd ei hangen arnom.

Felly, y mis hwn, rwyf wedi lansio Cymru Can – blaenoriaethau newydd fy nhîm ar gyfer fy saith mlynedd yn y swydd – yn seiliedig ar wyth mis o siarad ậ phobl ledled Cymru ar y modd y gall fy rôl gael yr effaith mwyaf.

Fy mlaenoriaeth fydd sicrhau bod y gyfraith yn gweithio’n galetach, gyda mwy o uchelgais, fel y gallwn weld gwelliannau diriaethol ym mywyd pobl Cymru, yn awr ac yfory.

I wireddu hyn, rydym wedi gosod pedair cenhadaeth arall – sef ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur; mwy o weithredu i atal afiechyd; economi llesiant; a gwarchod a gwella diwylliant a’r Gymraeg.

Pan ddechreuais yn y rôl fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yr ail erioed, ar Mawrth 1, 2023, dywedais bod ar Gymru angen newid trawsnewidiol, ar frys, i weithredu ar ein heriau enfawr ym maes tlodi, anghydraddoldeb a’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Rhaid i’r byd gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050 i osgoi newid hinsawdd argyfyngus a chwalfa systemau, ac rydym yn rhedeg allan o amser.

Yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gennym lawer o’r datrysiadau, a thra bo’r rhain yn amseroedd heriol i’r rhai hynny yn y gwasanaethau cyhoeddus, drwy weithio gyda’n gilydd, uwchraddio’r hyn sydd eisoes ar y gweill, gallwn beri i’r gyfraith hon weithio’n well.

Ym Mhowys a Gwynedd, maent yn helpu i drawsnewid gofal cymdeithasol drwy gefnogi sefydlu microfentrau i gyflwyno gofal, yn hytrach na mabwysiadu ymagwedd ‘un driniaeth yn addas i bawb’.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn un enghraifft o lawer sy’n dymuno bod yn rhan o’r Ddeddf – gwnaethom weithio gyda nhw ar eu strategaeth cynaliadwyedd i ddod y gymdeithas bêl-droed gynaliadwy gyntaf, ac fe ffurfiodd meddygon Ysbyty Gwynedd Grŵp Gwyrdd – gan herio’r system gofal iechyd i leihau eu gwastraff a’u hallyriadau hwy eu hunain, ac maent wedi denu dros 80 arall i ymuno ậ nhw, gyda’r bwriad o achub ein planed wrth iddynt drin cleifion.

Gellir gweld enghraifft arall o’r modd y mae pobl yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i herio a chwalu rhwystrau yn ein ffilm newydd Cymru Can.

Defnyddiodd Câr-y-Môr, fferm wymon a physgod cregyn gymunedol adfywiol gyntaf Cymru, yn Nhyddewi Sir Benfro, i ennill trwydded 20 mlynedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gynhyrchu gwymon Cymreig cynaliadwy a ffermio wystrys a chregyn gleision brodorol oddi ar yr arfordir yn Swnt Dewi .

Man and his two young children putting up a sign near the side of the road
Câr-y-Môr, fferm wymon a physgod cregyn gymunedol adfywiol gyntaf Cymru

Un maes ậ’r potensial i gyflawni’n holl nodau llesiant yw bwyd. Mae Cam Cymru’n ffocysu ar hyn, a byddaf yn dal ymlaen i alw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth fwyd hirdymor fel y gall Cymru gael cynllun i fwydo ein hunain yng nghanol ansicrwydd cynyddol bwyd byd-eang ac ansefydlogrwydd hinsawdd.

Seren arall ein ffilm yw Natalie Evans, o bedwar banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yn Rhondda Cynon Taf, sy’n rheoli tîm o wirfoddolwyr ậ phrofiad personol o dlodi bwyd.

Mae Natalie, sy’n cael ei chynorthwyo gan Esther, gwirfoddolwraig, a mam i dri, yn dymuno sicrhau prydau bwyd am ddim i bob plentyn o deuluoedd nad oes arian cyhoeddus o fewn eu cyrraedd (NRPF). Mae amodau NRPF yn atal person o dan reolau mewnfudo rhag cael mynediad i ystod o fudd-daliadau lles heblaw mewn nifer cyfyngedig iawn o achosion ac mae’n golygu bod pobl heb arian cyhoeddus o fewn eu cyrraedd yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd.

Dros gyfnod o flwyddyn, gwnaeth RhCT fwydo 1173 o bobl heb fynediad i arian cyhoeddus, 529 ohonynt yn blant.

Dywed Natalie bod ysgolion wedi dweud wrthynt am blant sy’n tynnu moronen fel pryd o fwyd o’u pecyn cinio, yn bwyta bara menyn fel pryd o fwyd ac yn mynd ậ bwyd o’r ysgol i’w brodyr a’u chwiorydd. Gall Cymru wneud yn llawer gwell na hynny.

Woman and son standing smiling at the camera
Esther a'i mab Samuel sy'n gwirfoddoli ym manc bwyd RhCT

Mae angen i bawb a phob sefydliad chwarae eu rhan, ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fod hyd yn oed yn fwy cynhwysol a dychmygus yn y modd y maent yn ennyn ymgyfraniad pobl wrth ddatrys heriau.

Y camau nesaf yn y gwaith hwn fydd cydweithio gyda sefydliadau ac ysgogwyr newid a fedr ein helpu i gael yr effaith mwyaf posibl.

Ni fyddwn yn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru oni bai bod pawb yn cael eu cynnwys, ac anghydraddoldeb sefydliadol yn cael ei ddatgymalu, ac ni allwn fforddio parhau i ddefnyddio datrysiadau aneffeithiol.

Mae nifer o gyrff cyhoeddus, busnesau, y rhai yn y sector gwirfoddol, eisoes wedi addo ymuno ậ mudiad Cymru Can.

Pam na fedrwn ni gael Cymru ậ gwell bywydau i’r ifanc a’r hen ac i bobl nad ydynt eto wedi eu geni?

Mae Cymru Can yn dangos yr hyn sy’n bosibl.

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’n pum cenhadaeth, os gwelwch yn dda cysylltwch ậ ni i drafod sut y gallem weithio gyda’n gilydd. Gallwch gysylltu ậ ni ar cysylltwchâni@cenedlaethaurdyfodol.cymru.