Yn COP28 eleni, mae cenhedloedd y byd wedi cytuno am y tro cyntaf bod yn rhaid i ni i gyd drosglwyddo i ffwrdd o danwydd ffosil. Er bod hon yn foment hanesyddol i ni fel dinasyddion byd ac i’n planed, mae wedi methu ậ chyfleu o ddifri bod hwn yn fater brys.

Rydym yn croesawu’r alwad i dreblu ynni adnewyddol a dyblu mesurau effeithlonrwydd ynni, ond mae’n rhaid i ni fynd ymhellach. Nid oes yna dargedau ar gyfer rhoi’r gorau, yn raddol, i danwydd ffosil, sef y cam mwyaf hanfodol sy’n rhaid i ni ei wireddu’n gyflym.

Tra nad yw’n golygu bod diwedd tanwydd ffosil ar fin dod, mae’n nodi cychwyn y daith honno. Yn awr mae’n rhaid i ni fynd ar drywydd hyn yn ddiymdroi a deall rôl pob cenedl, gan gynnwys Cymru, yn y dasg o liniaru cynnydd mewn tymheredd byd-eang, tra hefyd yn cynorthwyo gwledydd llai datblygedig i addasu’n gyflym a thrawsnewid mewn dull teg.

Yn COP y flwyddyn ddiwethaf, cytunodd cenedlaethau’r byd i sefydlu cronfa ar y cyd i helpu cenhedloedd sy’n datblygu i ymdopi ậ’r golled a’r niwed y maent eisoes yn eu profi oherwydd newid hinsawdd. Mae’r gronfa honno yn awr wedi ei sefydlu, ac heb wastraffu rhagor amser, mae’n rhaid dosbarthu’r cronfeydd hyn, ậ mawr eu hangen, i’r lle mae’r mwyaf o’u hangen.

Rydym hefyd yn cefnogi’n llwyr yr 80 gwlad sydd wedi cymeradwyo Datganiad ar Hinsawdd, Rhyddhad, Adferiad a Heddwch. Yn awr yn fwy nag erioed, mae arnom angen undod byd-eang gan roi’n holl sylw i’r dasg o fynd i’r afael ậ heriau newid hinsawdd sy’n effeithio fwyfwy arnom i gyd.

Yr haf hwn, cydnabu Pwyllgor Newid Hinsawdd (y DG) bod Cymru wedi cymryd ‘camau cadarnhaol yng Nghymru, gyda ffocws oedd i’w groesawu ar sgiliau, swyddi ac ymgysylltiad ậ’r cyhoedd ar gyfer y trawsnewid i Sero Net’ – ond dywedodd bod angen cymryd camau ar frys i sicrhau bod Cymru’n cwrdd ậ’i thargedau sero-net.

‘Gall Cymru Can wneud hyn, a’n cenhadaeth yng Nghenedlaethau’r Dyfodol Cymru, drwy ein strategaeth newydd, fydd sicrhau bod holl gyrff cyhoeddus Cymru’n cyflawni eu nodau sero- net a’u nodau cadarnhaol i natur erbyn 2030. Rydym am weld cyrff cyhoeddus yn arwain camau gweithredu ar newid hinsawdd gan gynnwys ymaddasu, mewn ffordd sy’n lleihau anghydraddoldebau ac sy’n macsimeiddio’r manteision i bobl a chymunedau ledled Cymru.

Mae llawer o’r datrysiadau eisoes yn hysbys. Rhaid i ddulliau ysgogi fel caffael, cynllunio defnydd tir, rheolaeth ariannol a chefnogi busnes alluogi’r newid angenrheidiol. Mae angen i bob sector yng Nghymru a thu hwnt, gymryd camau eofn, gyda mwy o gyfathrebu a sgyrsiau cymunedol am y newidiadau angenrheidiol sydd o’n blaenau.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu’r sylfeini ar gyfer ein huchelgeisiau cyfunol yng Nghymru – ar draws sectorau a gwasanaethau. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chyrff cyhoeddus ac eraill, gyda Cymru Can fel canllaw, wrth i ni ffocysu ein hymdrechion argefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Bydd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn sgwrsio â Chris Stark, Prif Swyddog Gweithredol y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar gyfer ‘Rising to the Challenge – Wales’ Pathway to Net Zero’, digwyddiad ar-lein gan y Sefydliad Materion Cymreig, 10:00 -11:30 AM, Ionawr 24. Cliciwch yma am ragor o fanylion.

Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Marie Brousseau-Navarro