“Nid ydym yn gwneud digon o gynnydd o ran cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan fod darlun cymysg yn erbyn dangosyddion cenedlaethol. Mae angen i ni ddefnyddio’r adroddiad hwn i annog gweithredu beiddgar a brys,” meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Mae adroddiadau Llesiant Cymru 2023 yn canfod bod plant a phobl ifanc yn ei chael hi’n anodd fwyaf ers y pandemig gyda dirywiad mewn boddhad bywyd, a lefelau isel o gyfranogiad mewn chwaraeon.

Mae’r adroddiad blynyddol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu asesiad o gynnydd Cymru tuag at gyflawni’r saith nod llesiant a nodir yn y gyfraith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac fe’i cyhoeddir yn ystod cyfnod arall o gynnwrf sylweddol i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau ledled Cymru.

Mae’r argyfwng costau byw i’w weld yn rheolaidd drwy gydol yr adroddiad hwn, gan amlygu’r effaith wirioneddol ar fywydau pobl heddiw, yn enwedig y rhai ar incwm isel.

  • Rhwng 2019-20 a 2021-22, roedd mwy nag un rhan o bump o’r boblogaeth (21%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu eu costau tai.
  • Amcangyfrifir bod 14% o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2021. Er gwaethaf ymyriadau i liniaru’r effaith, gallai hyd at 45% (614,000) o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap pris ym mis Ebrill 2022.

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker;

“Mae’r adroddiad blaenllaw hwn yn dangos darlun cymysg o gynnydd ar draws ein nodau llesiant. Mae rhywfaint ohono yn ddealladwy o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yr ydym newydd eu hwynebu. Fodd bynnag, mae saith mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac rwy’n siomedig nad ydym wedi gallu gwneud mwy o gynnydd, ac i’w heffaith gael ei theimlo’n gyson gan gymunedau ar draws Cymru.”

 

“Mae yna feysydd i’w dathlu, ond mae’n rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach i ddangos newid cadarnhaol trwy gydol ein holl agweddau o’n bywydau. Rwy’n annog pob rhan o’r Llywodraeth, Cyrff Cyhoeddus, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac eraill i ddefnyddio’r wybodaeth hon i ganolbwyntio eu gweithredoedd ac wrth bennu blaenoriaethau, cyllidebau a gwneud penderfyniadau polisi.”

“Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i ddeall, monitro ac ymateb i ddata a straeon wrth i ni fynd i’r afael â’r pwysau sydd o’n blaenau. Y tu ôl i bob ystadegyn yn adroddiad Llesiant Cymru mae stori – straeon o frwydro, llwyddiant ac optimistiaeth. Mae arnom ddyled i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, i sicrhau bod ein gweithredoedd yn cymryd yr adroddiad hwn o ddifrif.”

 

“Mae’r adroddiadau blynyddol hyn yn darparu rhan o’r darlun o ran sicrhau ein bod gyda’n gilydd yn atebol am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Wrth i ni barhau i wynebu ansicrwydd a heriau, byddaf yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus ac eraill i harneisio’r data a gasglwyd a helpu i drosglwyddo’r ystadegau i atebion.”

 

“Rwy’n croesawu’n arbennig yr adroddiad atodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar ethnigrwydd a llesiant, sydd â’r nod o ddwyn ynghyd y dystiolaeth bresennol er mwyn archwilio’r cynnydd tuag at nodau llesiant gwahanol grwpiau ethnig. Rwy’n cytuno â Llywodraeth Cymru fod adroddiadau ystadegol fel hyn yn un rhan o’r sylfaen dystiolaeth ac ochr yn ochr â ffynonellau eraill y gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn arf defnyddiol i lywio gwerthusiad hirdymor o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru.”

 

“Mae’r adroddiad yn glir bod yn rhaid i ni wneud mwy ar draws pob sector i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn 2021, amcangyfrifwyd bod allyriadau a ryddhawyd yn yr atmosffer yn uniongyrchol o’r tu mewn i Gymru yn cyfateb i 36.3 miliwn tunnell o garbon deuocsid cyfwerth, sef cynnydd o 7% o 2020. Mae’n amlwg bod angen i bolisi cenedlaethol a phenderfyniadau lleol ganolbwyntio ar frys ar fodloni allyriadau targedau.

 

“Rwy’n falch o weld bod un o nodau 2022 i gynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050 wedi’i gyrraedd – mae hyn yn dyst i waith caled swyddogion polisi, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a’r sefydliadau sector gwirfoddol.

“Ym mis Tachwedd 2023, byddaf yn cyhoeddi strategaeth fy swyddfa, sef fy nghyfraniad at gefnogi cyrff cyhoeddus i gyflawni eu gofynion statudol. Fe’i cynlluniwyd i fynd i’r afael â rhai o’n heriau enbyd, y mae llawer ohonynt wedi’u hamlygu yng nghanfyddiadau adroddiad Llesiant Cymru. Y strategaeth yw fy ymrwymiad i ddangos y gall Cymru wneud yn well, ac y gall, trwy weithio gydag eraill, gyrraedd ein cerrig milltir cenedlaethol.”

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio i sicrhau gwell llesiant diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i bobl sy’n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Mae’r comisiynydd wedi bod yn gweithio gyda phobl a sefydliadau ar gynllun ar gyfer gwaith ei swyddfa yn y dyfodol. Gallwch ddarganfod mwy am Ffocws Ein Dyfodol, yma.”

Nodiadau

 

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai plant a phobl ifanc sy’n cael yr anawsterau mwyaf ers y pandemig. Mae’r adroddiadau’n amlygu bod hon yn her ar draws pob maes polisi, sector a gwasanaeth;

  • Mae canran y babanod â phwysau geni isel wedi codi i’w lefel uchaf eleni
  • Roedd llai o blant pedair oed ar y lefel ddisgwyliedig mewn mathemateg, iaith, llythrennedd a chyfathrebu na chyn-bandemig
  • Gostyngodd data ar lefelau boddhad bywyd neu bobl ifanc
  • Roedd llai o bobl ifanc 16 – 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • Cofnododd Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2022 y lefelau isaf o gyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i’r ysgol ymhlith plant
  • Ac amlygodd Cyfrifiad 2021 mai plant oedd y grŵp i brofi’r gostyngiad mwyaf yn y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg.

 

Mae adroddiad Llesiant Cymru yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn cerrig milltir Cymru sy’n rhoi cynllun ar gyfer y dyfodol i’r sector cyhoeddus, o iechyd i drafnidiaeth a chyrff cyhoeddus eraill.

Cerrig milltir Sylwebaeth Adroddiad Llesiant Cymru
Y garreg filltir genedlaethol ar ddisgwyliad oes iach yw cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a chau’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15% erbyn 2050. Mae’r data’n dangos bod disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth ar gyfer y rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig ond wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011-13 a 2018-20.
Y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran yr oedolion â dau ymddygiad iach neu fwy i 97% erbyn 2050. Yn 2022-23 dywedodd y mwyafrif (92%) o oedolion eu bod wedi dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd iach o fyw
Y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran y plant â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 a mwy na 99% erbyn 2050. Mae’r data’n dangos bod canran y bobl ifanc a gyrhaeddodd y garreg filltir genedlaethol yn 2021 yn 90%, ychydig yn uwch na’r 88% a adroddwyd yn 2019 a 2017.
Y garreg filltir genedlaethol ar les meddwl yw gwella lles meddwl cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru erbyn 2050. Nid oedd lles meddwl cyfartalog oedolion wedi newid fawr ddim eleni, fodd bynnag, oherwydd y gwahaniaeth mewn dulliau casglu data, mae’n anodd llunio cymariaethau tymor hwy ar gyfer y dangosydd hwn.
Mae’r garreg filltir genedlaethol i gael 30% o bobl yn gwirfoddoli wedi’i chyrraedd eleni ond bydd angen ei chynnal. Cynyddodd gwirfoddoli yn ystod pandemig COVID-19 ac mae canlyniadau 2022-23 yn dangos bod y lefel uwch hon wedi’i chynnal (o 26% yn 2019-20, i 29% yn 2021-22 a 30% yn 2022-23).
Y garreg filltir genedlaethol ar fioamrywiaeth yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth gyda gwelliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050. Dangosodd dangosydd arbrofol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 fod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros y tymor hir ond wedi bod yn sefydlog yn fwy diweddar. Er y bu gwelliant yn statws poblogaethau rhai rhywogaethau yng Nghymru, mae SoNaRR 2020 yn dangos bod bioamrywiaeth yn dirywio ar y cyfan.
Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021 yn dangos gostyngiad yng nghyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, wedi’i ysgogi gan gynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. Mae’n rhy fuan i asesu effaith lawn y pandemig ar y duedd hon.
Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2022 roedd 66.8% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i’r trothwy lefel 3.
Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu’n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2022, roedd gan dri o 22 awdurdod lleol Cymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau.