Notebook and Wales Protocol for Future Generations Paper Underneath

Mae Protocol Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol yn fframwaith gweithredu sydd wedi’i gynllunio i gynghoricymunedau ac arweinwyr y byd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a theg. 

Mae’r Protocol hwn wedi’i ddatblygu gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru gyda chefnogaeth clymblaid arbenigol o fabwysiadwyr cynnar byd-eang. Cafodd sylwedd y protocol ei lywio gan gymuned o dros 150 o arweinwyr gwleidyddol, gweithredwyr ac ymarferwyr o fwy na 60 o wledydd mewn proses ymgynghori a archwiliodd brofiadau arloesol o bob rhan o’r byd. Datblygwyd y Protocol ar draws tri fersiwn o ymgynghoriad byd-eang a gynhaliwyd gan y School of International Futures, a ddaeth i ben yn ystod Fforwm Cenedlaethau’r Dyfodol, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd (Cymru) rhwng 29 Ebrill a 1 Mai 2024, lle cytunwyd ar y testun terfynol. 

Yn greiddiol iddo, mae Protocol Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymgorffori ymrwymiad Cymru i feddwl hirdymor a gwneud penderfyniadau cyfannol. Wedi’i hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae deddfwriaeth flaengar Cymru yn mandadu ystyried effaith camau gweithredu presennol ar genedlaethau’r dyfodol, gan osod cynsail ar gyfer llywodraethu cyfrifol a datblygu cynaliadwy. 

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, “Mae’r protocol hwn yn neges ar y cyd i gydnabod pwysigrwydd llywodraethu hirdymor a gweithredu arno. Mae’n darparu cyfres o argymhellion ymarferol fel y gall cenhedloedd, dinasyddion a’r Cenhedloedd Unedig weithredu’r Datganiad ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol mewn modd teg, gan ystyried undod rhwng cenedlaethau. Rydym yn falch bod y Protocol cyfunol hwn wedi’i ddatblygu a’i gyd-gynllunio yng Nghymru, cartref Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.” 

Mae’r Protocol wedi’i ddatblygu i gefnogi ymdrechion gweithredu’r Datganiad ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol y Cenhedloedd Unedig, a hwyluswyd ar y cyd gan Deyrnas yr Iseldiroedd a Jamaica. 

Daw lansiad Protocol Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol (8 Mai 2024) ar foment hollbwysig wrth i arweinwyr cymdeithas sifil ac Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig ymgynnull yn Nairobi, Kenya ar gyfer Cynhadledd Cymdeithas Sifil y Cenhedloedd Unedig cyn Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Dyfodol yn Efrog Newydd yn ddiweddarach eleni. 

Ysgrifennwyd y Protocol hwn o dan y disgwyliad y bydd y Cenhedloedd Unedig yn cynnal eu hymrwymiadau yn Uwchgynhadledd y Dyfodol i: 

  • Cytuno ar Ddatganiad uchelgeisiol ar gyfer hawliau Cenedlaethau’r Dyfodol. 
  • Penodi Llysgennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol sydd wedi’i leoli’n strategol ac sydd ag adnoddau da. 
  • Ymrwymo i gamau gweithredu sylweddol i adeiladu llywodraethu sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. 
  • Sefydliadoli’r egwyddor o degwch rhwng cenedlaethau. 

Mae nodweddion allweddol Protocol Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys cynigion ar gyfer pobl, llywodraethau a’r Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn cynnwys enghreifftiau byd-eang sefydledig a all roi mwy o ysbrydoliaeth. 

Nid dogfen yn unig yw Protocol Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol; mae’n lasbrint ar gyfer gweithredu ar y cyd a newid trawsnewidiol. Gyda’n gilydd, gadewch inni gofleidio’r her a llunio llwybr tuag at yfory mwy disglair.