Wrth ymateb i Genhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru, dywedodd Derek Walker: 

‘Mae cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel y glasbrint ar gyfer sut mae angen i economi Cymru weithio i bobl a’r blaned. Rwy’n falch o weld y ffocws ar waith teg, yr economi bob dydd a’r argyfwng hinsawdd. 

Rwy’n croesawu’r ymrwymiad i ddefnyddio dangosyddion llesiant Cymru i fesur a gwerthuso’r genhadaeth economaidd. Rwy’n annog awdurdodau lleol, Cydbwyllgorau Corfforaethol a Bargeinion Twf i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru a llunio cynlluniau economaidd rhanbarthol o amgylch y nodau llesiant. 

Mae cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru yn blaenoriaethu dulliau economi sylfaenol a chylchol a sgiliau gwyrdd yn eu cynlluniau llesiant lleol ac edrychaf ymlaen at gefnogi’r cynlluniau hyn i gynhyrchu, a chylchredeg, cyfoeth yn ein cymunedau, gwella llesiant pobl a chyflawni economi carbon isel. Rwy’n falch o weld ffocws yn y genhadaeth ar helpu pobl i oresgyn rhwystrau i gael mynediad at gyflogaeth – ac wrth i ni edrych ar adeiladu sgiliau gwyrdd a digidol ar gyfer y dyfodol, mae angen mynediad cyfartal at y cyfleoedd hyn i bawb yng Nghymru. 

Er mwyn gwneud i’r economi weithio ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol mae angen inni fynd ymhellach a bod yn fwy hyderus. Rydym yn dal i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gallwn eu hailgyflenwi – pe bai pob gwlad yn cynhyrchu ac yn bwyta ar y gyfradd a wnawn yng Nghymru byddai angen dwy blaned arnom i gynnal yr economi fyd-eang. Mae ein heconomi ymhell o fod yn gynaliadwy yn ei ffurf bresennol a dyna pam rwy’n annog pob lefel o lywodraeth a busnesau i wynebu’r her hon a gweithredu. 

Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ceiniog a ddefnyddir i gefnogi busnes yn uniongyrchol gysylltiedig â chyflawni nodau llesiant Cymru. Yr arweinyddiaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dangos wrth ysgogi busnesau y tu ôl i waith teg a datgarboneiddio yn gwneud gwahaniaeth yn ein heconomi. Mae angen yr un arweinyddiaeth i gyflawni pob un o’r saith nod llesiant cenedlaethol a sicrhau bod busnesau’n gwella byd natur, yn cynhyrchu bwydydd iach i bobl, yn talu cyflog byw go iawn i weithwyr ac yn buddsoddi yn llesiant ein cymunedau. 

Yn fy strategaeth newydd, Cymru Can, rwyf wedi nodi fy mlaenoriaethau fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar sut y byddaf yn cynghori ac yn annog cyrff cyhoeddus i gynnwys pobl, mentrau cymdeithasol a chymunedau mewn cynlluniau economaidd rhanbarthol sy’n blaenoriaethu datgarboneiddio, cylcholdeb ac economi sylfaenol. Gall Cymru arwain y ffordd at drawsnewid i economi sy’n gwasanaethu pobl a’r blaned yn gyntaf.