Rhaid i gyllideb Llywodraeth Cymru nodi newid cyfeiriad i ailosod ein heconomi

Mae’r pandemig Covid-19 wedi amlygu anghydraddoldebau strwythurol dwfn yn ein heconomi a’n cymdeithas, yn cynnwys tlodi cyflog, anghydraddoldebau iechyd, gwahaniaethau hiliol, tlodi bwyd, ansicrwydd swyddi ac anghydbwysedd yn ansawdd tai. Ar yr un pryd mae dirywiad yn ein hinsawdd a’n hecoleg yn cynyddu, ac rydyn ni mewn perygl o ddwysáu’r heriau hyn i gyd os wnawn ni ddychwelyd i’r hen ffordd o fyw.

Mae parthau glas yn bwysig – dyna pam rydyn ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau fod pobl yn gallu mynd i natur ar ôl cerdded prin bedwar munud

Dylai pobl Cymru fod yn gallu mynd i fyd natur ar ôl cerdded pedwar munud neu lai o ble maen nhw’n byw, yn ôl cyhoeddiad gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed.

Adroddiad newydd yn datgelu byddai Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru yn torri tlodi yn ei hanner

Byddai tlodi yng Nghymru yn cael ei haneru pe bai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) blaengar, yn ôl astudiaeth fawr a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe.