Gwahoddir pobl 18-30 mlwydd oed sy’n frwd dros arwain Cymru i ddyfodol mwy disglair, i wneud cais am le ar Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.

Future Generations Commissioner for Wales, Derek Walker standing with young people from the Future Generations Leadership Academy alumni in front of a blue and cloudy sky.
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, gydag aelodau o gyn-fyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gwahoddir pobl 18-30 mlwydd oed sy’n frwd dros arwain Cymru i ddyfodol mwy disglair, i wneud cais am le ar Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae’r Academi, sy’n cael ei rhedeg gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn chwilio am arweinwyr ifanc ar gyfer ei rhaglen saith mis sydd â’r nod o sicrhau newid cymdeithasol parhaol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn nhrydedd academi flynyddol y swyddfa yn cael y cyfle i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth llesiant Cymru, sy’n arwain y byd – yn diogelu buddiannau pobl heddiw, y rhai a gaiff eu geni yn y dyfodol, a’n planed – wrth roi ei nodau llesiant ar waith a dylanwadu ar arweinwyr a sefydliadau presennol. 

Eleni, mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi rhoi £40,000 i gynorthwyo’r academi i recriwtio pobl ifanc ậ nodweddion gwarchodedig. 

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, am y tro cyntaf, yn cefnogi dau le i bobl sy’n gweithio yn sector y celfyddydau – sy’n cynnwys staff mewn sefydliadau celfyddydol, neu’r rhai sy’n gweithio fel artistiaid, ymarferwyr creadigol neu weithwyr llawrydd. 

Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i ddod yn rhan o’r Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr – mae’r cyn-fyfyrwyr wedi siarad mewn cynadleddau hinsawdd, wedi ymuno â byrddau cynghori Llywodraeth Cymru, wedi dod yn swyddogion etholedig ac wedi cynrychioli Cymru ar Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol y DU. 

Mae ganddynt hefyd rôl allweddol wrth gyfrannu at waith y comisiynydd, Derek Walker, a ddaeth yr ail gomisiynydd erioed ym mis Mawrth 2023 ac sy’n cyhoeddi ei gynllun saith mlynedd yr hydref hwn, ar ôl ymgynghori ledled y wlad ar y dulliau gorau o fynd i’r afael â’r materion pwysig sy’n wynebu Cymru. Ymunodd Nirushan Sudarsan ag Academi 2021-2022 ac mae bellach yn gyfarwyddydd Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange CIC a Ffair Jobs CIC – menter gymunedol sy’n cynnwys trigolion ac arweinwyr yn Butetown, Grangetown a de Caerdydd. 

Dywedodd ef: “Mae’r Academi wedi bod yn gyfle gwych i gysylltu ag arweinwyr y dyfodol ledled Cymru i ddysgu a hybu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fel y genedl gyntaf yn y Byd i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, mae gennym gyfle unigryw nid yn unig i feddwl am genedlaethau’r dyfydol ond i wneud newidiadau llesol ac ymarferol yn awr fel y gallwn adeiladu gwell dyfodol i bawb.” 

Young man wearing all black wearing glasses is standing on a path with trees and grass behind him.
Mae Nirushan Sudarsan yn un o raddedigion Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol a dywedodd ‘Fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru yw un sy’n sail i leisiau ac angerdd pobl ifanc. Lle rydym yn gofalu am ein cymunedau, gan wneud ein gwlad yn decach ac yn fwy cyfartal i bawb. Dyna'r Gymru a welaf.'

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Mae’r bobl ddisglair sy’n cwblhau ein Hacademi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn trosi nodau llesiant Cymru yn weithredoedd – ar gyfer Cymru lle mae pawb yn ymgyfrannu yn y dasg o adael Cymru’n lle gwell na’r un a ddarganfuwyd gennym.  

“Mae’r rhai sy’n ymuno ậ’r Academi mewn sefyllfa unigryw i gydweithio fel rhan o fudiad byd-eang cenedlaethau’r dyfodol, a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau – i sicrhau’r newid brys a thrawsnewidiol sydd ei angen ar Gymru. Mae bod yn rhan o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn golygu y byddwch yn cyfrannu nid yn unig at Gymru well yn awr, ond at ddyfodol gwell i bawb.” 

 

Ymunodd Judith Musker Turner, Rheolydd Portfolio Cyngor Celfyddydau Cymru ậ’r Academi yng ngharfan 2021-2022. Dywedodd hi: “Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol rydym yn falch iawn o fod yn noddi dau le ar gyfer arweinwyr celfyddydol y dyfodol ar yr Academi bwysig hon, sy’n rhoi llais i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ac sy’n datblygu sgiliau ein harweinwyr y dyfodol.

Mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn allweddol i ddatrys llawer o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu fel cymdeithas, a bydd y cyfranogwyr dethol yn gallu hyrwyddo pwysigrwydd y celfyddydau i’r Ddeddf yn ogystal â defnyddio’r dysgu y maent yn ei ddatblygu drwy’r Academi i ysgogi newid yn eu sefydliadau neu eu cymunedau hwy eu hunain.”  

 

Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Bydd ein cefnogaeth i’r rhaglen arweinyddiaeth yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru. 

“Un o’n nodau yw helpu i greu cymdeithas decach drwy gefnogi symudedd cymdeithasol. Rydym wedi ymrwyno i Gymru a’i phobl ifanc ac yn falch o gael y cyfle hwn i helpu’r academi arweinyddiaeth a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.” 

 

  • I wneud cais am le ar yr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, ewch i cliciwch yma.
  •  Y dyddiad cau yw Gorffennaf 30. I gael rhagor o wybodaeth am Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, cliciwch yma.
  • Mae ceisiadau yn awr wedi agor. Bydd Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn creu rhestr fer o ymgeiswyr anabl, Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ac ymgeiswyr sydd yn aelodau o’r gymuned LHDT+ ar gyfer ein cyfnod cyfweld, cyn dethol y garfan derfynol 
  • Dylai ymgeiswyr o sector y celfyddydau sy’n dymuno ymgeisio am le wedi ei noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru ymgeisio drwy’r recriwtio agored uchod. 
  • Mae nawdd sefydliadau yn awr wedi ei lenwi ar gyfer rhaglen eleni. Mae noddwyr yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Trafnidiaeth Cymru. 
  • Bydd angen i gyfranogwyr gyfrannu oddeutu pedair awr y mis, yn ychwanegol at ddwy daith breswyl dau ddiwrnod yr un (ym mis Medi a Rhagfyr) a diwrnod graddio ym mis Mawrth 2024. 
  • Cefnogir y rhaglen eleni gan yr ymgynghorwyr busnes, Elevate BC Ltd, sy’n seiliedig yng Nghymru. 

DIWEDD.