Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru'n dweud bod canfyddiadau'r Climate Change Committee yn canfod nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau allyriadau hinsawdd yn darllen 'brys'.

Heddiw (6 Mehefin) mae’r CCC, cynghorydd annibynnol y DU ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, wedi cyhoeddi Adroddiad Cynnydd – Lleihau Allyriadau yng Nghymru. 

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth i’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gymryd golwg tymor hwy ar benderfyniadau polisi, ac i amddiffyn anghenion pobl nawr a’r rhai a fydd yn cael eu geni yn y dyfodol. 

Dechreuodd ei rôl fel yr ail gomisiynydd ar 1 Mawrth 2023. 

“Mae hwn yn adroddiad brys sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n gyflymach ac yn ddoethach ar yr argyfwng hinsawdd – un o’r bygythiadau mwyaf i’n hiechyd, ac yn niweidiol i ymdrechion tuag at Gymru fwy cyfartal,” meddai. 

“Mae’r neges yn atgyfnerthu fy ngalwad ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, am newid trawsnewidiol – ac yn adlewyrchu’r darlun mawr siomedig ar ddatgarboneiddio, fel yr adroddwyd yn ymchwil fy swyddfa a ganfu nad oedd gan Gymru ddull cydgysylltiedig ar feysydd fel gwariant, a’n galwad am gynllun hirdymor i ddatgarboneiddio cartrefi. 

“Mae adroddiad y CCC yn nodi, er bod rhai camau cadarnhaol wedi’u cymryd yng Nghymru, megis y penderfyniad i adolygu pob brosiectau ffyrdd mawr ar sail amgylcheddol, mae angen gweithredu polisi yn awr ym mhob sector ar draws yr economi ac mae’n rhaid i weithredu gyflymu. 

“Rydw i wedi bod yn cyfarfod â phobl ledled Cymru sydd eisiau gweithredu diriaethol i atal newid yn yr hinsawdd a cholli ein natur – yr wythnos hon clywais gan leisiau sy’n daer am bŵer cymunedol datganoledig ac i bobl ymwneud llawer mwy â datrys problemau. 

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gynnwys cymunedau, adeiladu ar yr enghreifftiau lleol trawsnewidiol, megis fferm solar Ysbyty Treforys, sy’n rhagamcanu arbedion ynni o hyd at £1m, er mwyn cynyddu ein huchelgais yn genedlaethol a sicrhau bod gennym Gymru y gellir byw ynddi heddiw ac yn y dyfodol.” 

  • Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio i sicrhau llesiant diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i bobl sy’n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.  Mae’r comisiynydd newydd yn gweithio gyda phobl a sefydliadau ar gynllun ar gyfer gwaith ei swyddfa yn y dyfodol. Gallwch rannu eich barn a darganfod mwy am Ffocws Ein Dyfodol, yma.