Mae angen gweithredu ar frys yng Nghymru i atal dirywiad ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker  

Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol Cymru mewn argyfwng o ganlyniad i’r setliad cyllido a gafodd Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU.  

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am lywyddu dros gyfnod newydd o lymder a bydd canlyniadau hirdymor i wasanaethau cyhoeddus ac i bobl Cymru.  

Mae Llywodraeth Cymru dan bwysau aruthrol, ond rwy’n pryderu nad yw’r gyllideb ddrafft hon yn rhoi digon o ystyriaeth i’r hirdymor gan adeiladu ar anghydraddoldeb pellach ac yn creu pwysau costus yn y dyfodol i‘n cyrff cyhoeddus sydd eisoes wedi dirywio gan gynnwys ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn chwarae rhan enfawr wrth gefnogi pobl i fyw bywyd o ansawdd da, a bydd rhaid i genedlaethau’r dyfodol ailadeiladu’r hyn yr ydym am golli mewn lles diwylliannol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol os yw’r cylch hwn o driadau parhaus yn parhau, gyda’n hygyrchedd at hamdden a diwylliant dan fygythiad penodol.  

Y gaeaf diwethaf, rhoddodd llyfrgelloedd gynhesrwydd, diogelwch, cysylltiad a synnwyr o ymberthyn i rai o’n pobl fwyaf agored i niwed, yn ogystal â’u cefnogaeth i ddysgu ein plant yr iaith Gymraeg a’u pharatoi ar gyfer yr ysgol, mae’n rhaid i ni wnaeth popeth o fewn ein gallu i arbed hyn.  

Mae angen gweithredu ar frys yng Nghymru, mwy o atebion creadigol gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, i atal dirywiad ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a buddsoddi’n briodol mewn systemau iechyd ataliad sy’n cadw pobl yn iach, nawr.”