"Mae fy rôl yn cynnwys cefnogi Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus i ystyried y tymor hir, ac mae gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar gynhyrchion plastig untro, tafladwy yn bwysig i'n hinsawdd a natur, ein hiechyd a'n cymunedau."

“Mae’n rhaid i ni weithredu nawr i atal mwy o blastigau diangen, sydd byth yn diflannu ac sy’n berygl i fywyd gwyllt a phobl, rhag mynd i mewn i’n hamgylchedd ac mae angen i ni weithredu nawr i leihau plastig untro diangen yn y lle cyntaf. 

“Mae angen dull mwy uchelgeisiol ar systemau ar Gymru sy’n mynd i’r afael â pham a sut rydym yn defnyddio adnoddau gwerthfawr ein daear ac sy’n cefnogi ailfeddwl am sut rydym yn defnyddio. 

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â chymryd camau cyfannol, ataliol sydd o fudd i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol a bydd fy strategaeth newydd a chyhoeddir fis nesaf yn annog mwy o weithredu ar achosion sylfaenol rhai o’n problemau mwyaf.” 

 

Ym mis Rhagfyr 2022, cymeradwyodd y Senedd ddeddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion diangen a tafladwy i ddefnyddwyr.  Bydd hyn yn dod i rym ddydd Llun, 30 Hydref. Am fwy o wybodaeth, gweler gwefan Llywodraeth Cymru. 

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i sicrhau llesiant diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol gwell i bobl sy’n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

Derek Walker yw’r ail Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru erioed, ar ôl dechrau ei rôl i amddiffyn buddiannau pobl nad ydynt wedi’u geni eto, ar 1 Mawrth 2023.

Ym mis Tachwedd 2023, bydd yn cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer saith mlynedd ei dymor.