#27
Annog pwyllgorau ar eich traed neu wrth gerdded, ble bo’n addas
Problem
Yn ôl y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig, mae’r gweithiwr swyddfa cyffredin yn treulio 5.41 awr y dydd wrth ei ddesg, a dengys ymchwil fod ein bywydau ar ein heistedd yn cynyddu’r tebygrwydd o ordewdra, clefyd y galon a diffyg iechyd meddwl. Ceir manteision clir o fynd am dro rheolaidd, fel ein gwneud ni’n fwy creadigol, manteision iechyd, gwelliant mewn lefelau egni, yn ogystal â gwell cyfathrebu, ffocws a pherthynas rhwng y rheolwyr a’r gweithwyr.
Newid Syml
Drwy annog cyfarfodydd ar gerdded ac ar eich traed, rydych chi’n dangos eich bod chi’n rhoi gwerth i’r dull hwn o weithio, a’r manteision a all ddod yn ei sgil i lesiant eich cyflogai.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol