#30

Ystyried cefnogi eich cymunedau i ailgynllunio’u strydoedd i wella’u iechyd a’u lles

1

Problem

Mae ein strydoedd yn ofodau cyhoeddus sy’n eiddo i bawb, ac maen nhw’n cynrychioli 80% o’r holl le agored mewn trefi a dinasoedd, gan gynnig lle y gellir ei gynllunio i fod o fudd i’r gymuned gyfan. Mae ein strydoedd yn fwy na dim ond modd o fynd o un lle i’r llall, maen nhw’n diffinio ac yn ffurfio ein hardal ac yn cael effaith enfawr ar ein ffordd o fyw, pa mor fywiog y gallwn ni fod, a pha mor dda rydym ni’n adnabod ein cymdogion. Mae cynnydd mewn trafnidiaeth wedi newid y ffordd y defnyddir ein strydoedd, ac yn rhy aml, mae ein strydoedd yn teimlo fel pe baen nhw wedi cael eu cynllunio’n unswydd ar gyfer ceir.

2

Newid Syml

Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud, gyda’ch cymuned, i wella ein strydoedd, gan gynnwys: ‘glasu’ y stryd, trefnu diwrnod plannu, cyflwyno coed, gosod cyfyngiad cyflymder o 20mya, creu lleoedd chwarae, ardaloedd i eistedd, neu sefydlu llyfrgell stryd mewn hen flwch

Astudiaeth achos

Cwblhaodd Sustrans brosiect cynllunio stryd dan arweiniad y gymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda thrigolion lleol i greu stryd fwy diogel a deniadol.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru iachach

Cymru iachach,

You have earned...

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol