#73

Rhannu cyfleoedd a data ymwneud cyhoeddus â sefydliadau eraill

1

Problem

Nid yw pobl yn byw eu bywydau, na’n cysylltu â’u cymunedau, yn unol ag ôl troed eu hawdurdod lleol, neu fwrdd iechyd, nac unrhyw sefydliad arall. Mae gan sefydliadau gyfle i rannu ac ariannu ar y cyd ddulliau o ddenu pobl. Dangosodd ymchwil fod llawer o’r un bobl yn cael eu holi, a bod cymaint o hynny’n digwydd nes peri fod sawl sefydliad bellach yn cwyno o flinder ymgynghori.

2

Newid Syml

Drwy gyd-gynnal digwyddiadau a rhannu canfyddiadau o weithgareddau ymwneud cyhoeddus eraill ar draws adrannau a sefydliadau, byddwch chi’n dangos dau o’r pum dull arall o weithio: cydweithio gyda phartneriaid eraill, ac integreiddio ar draws llif gwaith. Mae hyn yn osgoi dyblygu ac yn dileu rhwystrau i ddata a gwybodaeth hanfodol y gallai eich sefydliad fod yn ei ddal, a allai fod yn amhrisiadwy i dîm arall. Mae hyn hefyd yn helpu i leihau ‘blinder ymgynghori’ ac yn annog pobl i feddwl am y darlun llawn.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Ymgyfraniad

You have earned...

Ymgyfraniad

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymru o gymunedau cydlynus,

You have earned...

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da