#
Cynnwys pobl ar y cyfle cyntaf posibl
Problem
Canfu adroddiad diweddar gan Cymru Amrywiol fod dinasyddion yn teimlo na ddylai ymgysylltu fod yn ymwneud â’r sector gyhoeddus yn mynd â’u hagenda a’u drafftiau at bobl, Yn hytrach, dylai sefydliadau sector gyhoeddus fod yn gosod eu hagenda drwy wrando ar bobl a’u cynnwys yn barhaus. Os gofynnir yn rhy hwyr i bobl, mae’n aml yn rhy hwyr yn y broses i wneud newidiadau arwyddocaol i’r prosiect neu’n cynllunio gwasanaeth. O ganlyniad mae’r gwasanaethau neu’r penderfyniadau’n annhebygol o adlewyrchu anghenion y bobl.
Newid Syml
Dylai cyrff cyhoeddus geisio cynnwys pobl ar y cyfle cyntaf posib, gan geisio dull ystyrlon, archwiliol o ymgysylltu, yn hytrach na chynnig penderfyniad a wnaed eisoes, ac ymgynghori yn ei gylch.