Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100

Gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol unigryw ac arloesol wedi bod yn ysbrydoli pobl ledled Cymru i weithredu heddiw ar gyfer gwell yfory.

Rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw at rai o lwyddiannau’r Ddeddf a sut mae’n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru a nawr rydyn ni’n tynnu sylw at rai o’r bobl sy’n helpu i greu newid cadarnhaol. 

Mae sefydliadau, mawr a bach, grwpiau cymunedol ac unigolion yn rhan o’r mudiad dros newid hwn ac yn helpu i greu Cymru sy’n iachach, yn fwy cyfartal, yn gydnerth yn amgylcheddol, yn gyfrifol yn fyd-eang, yn lewyrchus, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. 

I ddathlu a chydnabod rhai o’r gwaith sy’n diogelu cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, rydym wedi creu cipolwg ar y mudiad dros newid hwn, gyda’r 100 o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Dim ond rhestr fach yw hon o’r cannoedd ar filoedd o bobl ledled Cymru a’r Byd sy’n rhoi’r Ddeddf ar waith, gan greu newid a’n hysbrydoli. 

Diddordeb mewn enghreifftiau o sut mae’r Ddeddf wedi cael effaith ar draws Cymru a’r Byd?