#5

Talu eich cyflenwyr yn brydlon

1

Problem

Mae un o bob tri thaliad i fusnesau bychain yn cael eu gwneud yn hwyr. Mae’r FSB yn rhagweld fod 50,000 o fusnesau yn y DU yn rhoi’r gorau i fasnachu bob blwyddyn oherwydd y taliadau hwyr hyn oddi wrth y rheiny sy’n comisiynu’u gwasanaethau, gyda hyd at 30% yn cael eu gorfodi i ddefnyddio gorddrafft. Gall pob taliad hwyr gostio hyd at £6,142 i fusnes bach, gyda hyd at 79% o fusnesau bach ddim yn codi llog ar anfonebau hwyr.

2

Newid Syml

Drwy dalu busnesau bach yn brydlon, byddwch chi’n atal busnesau rhag mynd i drafferthion llif arian.

Talu eich cyflenwyr yn brydlon

Pan fydd taliadau i gyflenwyr yn cael eu gohirio, yn arbennig os yr ydynt yn fusnesau bach, gall gael effeithiau niweidiol. Mae gan Pinkspiration - cwmni adeiladu sy’n arbenigo mewn gwella sgiliau pobl ifanc ar gyfer y diwydiant, dymor talu o 14 diwrnod ac maent yn annog eraill hefyd i fabwysiadu un.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru lewyrchus

Cymru lewyrchus,

You have earned...

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymru sy’n fwy cyfartal,

You have earned...

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)