#65

Hybu cyfleoedd arwain i’ch staff er mwyn iddyn nhw ddeall cyd-destunau bydeang

1

Problem

yn dod yn fwyfwy rhyng-gysylltiedig, mae troseddau hawliau dynol, anghyfartaledd a thlodi’n dal i fygwth heddwch a chynaliadwyedd. Mae UNESCO’n gweithio drwy rymuso dysgwyr o bob oedran i ddeall mai materion bydeang, nid lleol, yw’r rhain, ac i ddod yn hyrwyddwyr hyfyw o gymdeithasau mwy heddychlon, goddefgar, cynhwysol, sicr a chynaliadwy.  Mae deall sut mae ein byd yn gweithio a sut y bydd ein penderfyniadau ni’n cael effaith ar eraill, yn ein gwneud ni’n well wrth ein gwaith ac yn ein cartref. Fel cenedl sy’n ymgeisio at fod yn genedl sy’n edrych am allan, ac sy’n cael ei chydnabod am degwch a chynaliadwyedd, mae cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad rhyngwladol yn dangos arweiniad ac y cefnogi ein rôl mewn bod yn Genedl Gyfrifol yn Fydeang.

2

Newid Syml

Drwy hybu Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol, rydych chi’n cynnig cyfle i’ch staff i ddatblygu’u sgiliau’u hunain, ac yn helpu gyda phrosiectau rhyngwladol ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn mewn gwledydd sy’n datblygu.

Astudiaeth achos

Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Bydeang (ILO) yn darparu cyfle unigryw i dreulio wyth wythnos yn Affrica is y Sahara, yn gweithio ar brosiectau datblygu a gynlluniwyd i wella eich sgiliau arwain. Mae’r fideo hwn gan Academi yn dangos y manteision a all ddod yn sgil y rhaglen.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)