#44
Archwilio a allech chi ddefnyddio dulliau cyllidebu cyfranogol i alluogi pobl i wneud penderfyniadau ynghylch sut y rhennir rhywfaint o gyllid.
Problem
Mae arweinwyr mewn dros 3,000 o ddinasoedd ac ardaloedd trefol yn defnyddio cyllidebu cyfranogol. Dyma broses ddemocrataidd sy’n rhoi rheolaeth uniongyrchol i bobl gyffredin dros gyfran o gyllideb gyhoeddus. Pan fydd gan breswylwyr lleol a grwpiau cymunedol gyfran mewn penderfynu pa brosiectau sy’n derbyn arian yn lleol, mae’n grymuso trigolion, yn cryfhau ymgysylltu o gwmpas dod o hyd i atebion, ac mae’n rhwymo cymunedau ynghyd.
Newid Syml
Dylech archwilio sut y gallai cyllidebu cyfranogol weithio i’ch sefydliad chi, gan symud sut y rheolir cronfeydd cymunedol drosodd i fodel sy’n cynnwys dinasyddion.
Resources
More Information about: Archwilio a allech chi ddefnyddio dulliau cyllidebu cyfranogol i alluogi pobl i wneud penderfyniadau ynghylch sut y rhennir rhywfaint o gyllid.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru o gymunedau cydlynus
You have earned...
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da
Cymru lewyrchus
You have earned...
Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas