Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2024 

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl oddi wrth Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a staff Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru pan fydd eich data personol yn cael ei brosesu mewn cysylltiad ậ Fforwm Cenedlaethau’r Dyfodol – i gefnogi’r gwaith o baratoi a chyfathrebu mewnbwn Cymru i brosesau’r Cenhedloedd Unedig.  

Mae’n rhoi gwybodaeth i chi am:  

  • Baham yr ydym yn medru prosesu eich gwybodaeth  
  • Pa ddata personol yr ydym yn ei gasglu a phaham  
  • Sut yr ydym yn ei gasglu   
  • Pwy fydd yn cael mynediad iddo 
  • Am ba hyd y byddwn yn ei storio  
  • Eich hawliau 

Y deddfau perthnasol 

Rydym yn prosesu data personol yn unol ậ deddfwriaeth diogelu data, yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) a Rheoliad Diogelu Data Cyffredin y DU (GDPR y DU). Mae’r Comisiynydd yn rheolydd data at ddibenion y DPA a GDPR y DU. 

Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu data personol yw pwerau a dyletswyddau’r Comisiynydd fel y’u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2015 (Y Ddeddf). Mae’r sail statudol hon yn dod o dan Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU: prosesu sy’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a weithredir er budd cyhoeddus neu wrth arfer awdurod swyddogol sydd wedi’i freinio yn y rheolydd. 

Y math o ddata personol yr ydym yn ei gasglu  

Wrth gyflawni’r gweithgaredd sy’n berthnasol i Fforwm Cenedlaethau’r Dyfodol rydym yn prosesu’r data personol canlynol: 

  • Dynodyddion personol, cysylltiadau a nodweddion (enw a manylion cyswllt, er enghraifft).  

Sut yr ydym yn cael y data personol a phwy fydd yn medru ei gyrchu  

Mae’r mwyafrif o’r data personol yr ydym yn ei brosesu yn cael ei roi i ni yn uniongyrchol gennych chi at ddiben cyflawni ein gwaith. 

Gall y byddwn hefyd yn derbyn data personol yn anuniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru, partneriaid, a rhanddeiliaid eraill sy’n ymwneud ậ’n gwaith.  

Bydd gan y Comisiynydd ac aelodau staff fynediad i’ch data personol.  

Sut yr ydym yn storio eich gwybodaeth bersonol 

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio gan y Comisiynydd ar systemau diogel gyda mynediad wedi ei gyfyngu i aelodau staff y Comisiynydd. 

Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn hwy nag sy’n angenrheidiol ar gyfer hwyluso Fforwm Cenedlaethau’r Dyfodol [ac am gyfnod penodol wedi hynny. Byddwn yn cynnal adolygiad 1 flwyddyn yn dilyn y digwyddiad]. Byddwn wedyn yn cael gwared o’r wybodaeth mewn dull diogel yn unol ậ gofynion y DPA a GPDR y DU. 

Eich hawliau diogelu data 

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys: 

  • Hawl i fynediad  Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.  
  • Hawl i gywiro Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sydd yn eich barn yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sydd yn eich barn yn anghyflawn. 
  • Hawl i ddileu Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau. 
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau. 
  • Hawl i wrthwynebu prosesu Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau. 
  • Hawl i gludadwyedd data Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.   

Nid yw’n ofynol i chi dalu unrhyw dậl am arfer eich hawliau. Os y byddwch yn gwneud cais, mae gennym un mis i ymateb i chi.  

Os gwelwch yn dda cysylltwch ậ ni drwy gyfrwng y manylion cyswllt a nodir isod os yr ydych yn dymuno gwneud cais.  

Ein manylion cyswllt  

Jacob Dafydd Ellis   

Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Caerdydd CF11 6BH. 

Ebost: cysylltwchâni@cenedlaethaurdyfodol.cymru 

 

Swyddog Diogelu Data  

Gellir hefyd gysylltu ậ’n Swyddog Diogelu Data Sang-Jin Park drwy ebost: 

contactus@futuregenerations.wales neu drwy ysgrifennu at y cyfeiriad post uchod.  

Sut i gwyno 

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o’ch data personol, gallwch anfon cwyn atom drwy’r manylion cyswllt uchod. 

Gallwch hefyd anfon cwyn at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os yr ydych yn anhapus gyda’r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich data. Cyfeiriad yr ICO yw: 

Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru 

Cyfeiriad post: Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH 

Rhif ffôn: 0330 414 6421 

Ebost: wales@ico.org.uk 

Gwefan: Swyddfa Cymru | ICO