COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU  

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl oddi wrth Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a staff Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru pan fydd eich data personol yn cael ei brosesu mewn cysylltiad â cofrestru a mynychu digwyddiadau.  

Mae’n rhoi gwybodaeth i chi am:  

  • Baham yr ydym yn medru prosesu eich gwybodaeth  
  • Pa ddata personol yr ydym yn ei gasglu a phaham  
  • Sut yr ydym yn ei gasglu   
  • Pwy fydd yn cael mynediad iddo 
  • Am ba hyd y byddwn yn ei storio  
  • Eich hawliau 

Y deddfau perthnasol 

Rydym yn prosesu data personol yn unol ậ deddfwriaeth diogelu data, yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) a Rheoliad Diogelu Data Cyffredin y DU (GDPR y DU). Mae’r Comisiynydd yn rheolydd data at ddibenion y DPA a GDPR y DU. 

Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu data personol yw pwerau a dyletswyddau’r Comisiynydd fel y’u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2015 (Y Ddeddf). Mae’r sail statudol hon yn dod o dan Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU: prosesu sy’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a weithredir er budd cyhoeddus neu wrth arfer awdurod swyddogol sydd wedi’i freinio yn y rheolydd. 

Y math o ddata personol yr ydym yn ei gasglu  

Er mwyn cofnodi cofrestriadau ar gyfer digwyddiadau rydym yn cynnal ac yn deall ein cyrhaeddiad fel sefydliad, rydym yn prosesu’r data personol canlynol: 

  • Dynodyddion personol, cysylltiadau a nodweddion (enw a manylion cyswllt, er enghraifft). 

Sut yr ydym yn cael y data personol a phwy fydd yn medru ei gyrchu  

Mae’r data personol rydyn ni’n ei brosesu yn cael ei ddarparu i ni’n uniongyrchol gennych chi er mwyn cofrestru i fynychu ein digwyddiadau. 

Bydd gan y Comisiynydd ac aelodau staff fynediad at eich data personol.   

Rydym yn defnyddio eich data personol er mwyn cysylltu â chi fel cyfranogwyr ein digwyddiadau.   

Rydym yn defnyddio’ch data personol i lywio ein dangosyddion perfformiad sefydliadol mewn perthynas â deall nifer, lleoliad daearyddol a nodweddion y bobl yr ydym yn eu cyrraedd. Mae cwestiynau am eich nodweddion personol yn ddienw. Ni fydd modd eich adnabod yn bersonol pan fyddwn yn defnyddio’r data hwn at y diben hwnnw.  

Nid yw’r Comisiynydd yn defnyddio unrhyw broseswyr data trydydd parti.   

Ni fydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Ni fydd yn cael ei gyhoeddi. 

Sut yr ydym yn storio eich gwybodaeth bersonol 

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar ein systemau diogel. Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol am gyfnod o flwyddyn o’r digwyddiad y buoch yn bresennol. Yna byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth drwy ddileu’r ffurflenni cofrestru wedi’u cwblhau; cofnodion dilynol ac unrhyw ddata arall sy’n ymwneud â chi. 

Eich hawliau diogelu data 

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys: 

  • Hawl i fynediad – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.  
  • Hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sydd yn eich barn yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sydd yn eich barn yn anghyflawn. 
  • Hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau. 
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau. 
  • Hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau. 
  • Hawl i gludadwyedd data – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.   

Nid yw’n ofynol i chi dalu unrhyw dậl am arfer eich hawliau. Os y byddwch yn gwneud cais, mae gennym un mis i ymateb i chi.  

Ein manylion cyswllt  

Heledd Morgan 

Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Caerdydd CF11 6BH. 

Ebost: cysylltwchâni@cenedlaethaurdyfodol.cymru 

Swyddog Diogelu Data  

Gellir hefyd gysylltu ậ’n Swyddog Diogelu Data Sang-Jin Park drwy ebost: 

cysylltwchâni@cenedlaethaurdyfodol.cymru neu drwy ysgrifennu at y cyfeiriad post uchod.  

Sut i gwyno 

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o’ch data personol, gallwch anfon cwyn atom drwy’r manylion cyswllt uchod. 

Gallwch hefyd anfon cwyn at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os yr ydych yn anhapus gyda’r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich data. Cyfeiriad yr ICO yw: 

Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru 

Cyfeiriad post: Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH 

Rhif ffôn: 0330 414 6421 

Ebost: wales@ico.org.uk 

Gwefan: Swyddfa Cymru | ICO