Ar hyn o bryd yng Nghymru mae gennym fwlch sgiliau mawr. Nid yw hyn ond yn mynd i ehangu wrth i ni symud at dechnolegau gwyrdd a swyddi gwyrdd. Gwyddom, os yw Cymru am fod yn lewyrchus, bod angen i’n gweithwyr feddu ar y sgiliau ar gyfer swyddi’r dyfodol.

Mae TUC Cymru yn awgrymu y gallai 60,000 o swyddi gwyrdd gael eu creu yng Nghymru pe baem yn buddsoddi’n iawn yn yr economi werdd. Beth yw swyddi gwyrdd? Mae’r diffiniad yn eang ac yn amrywiol a gall fod yn unrhyw beth o insiwleiddio cartref, ailgoedwigo a gwaith amddiffyn rhag llifogydd naturiol, i addysg goedwig. Mae yna gyfleoedd newydd a chyffrous os cymerwn ni nhw.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Dros 4000 o swyddi ôl-osod mewnol
  • Bron i 6000 o swyddi mewn ynni adnewyddadwy
  • Bron i 5000 mewn ailgoedwigo ac amddiffyn rhag llifogydd
  • Dros 3000 mewn ymchwil a datblygu technolegau gwyrdd

Rwyf wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ceisio darparu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i ymateb i’r argyfyngau natur a hinsawdd a helpu i fynd i’r afael â chanlyniadau economaidd a chyfiawnder cymdeithasol y pandemig.

Byddai hyn yn darparu fframwaith i sefydlu cyfleoedd newydd a chyfleoedd sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yn gyflym o ran sgiliau, swyddi ac adfer amgylchedd naturiol Cymru, tra hefyd yn alinio’n well y mecanweithiau presennol sydd ar waith.

Ynghyd â Rhaglen ‘Future of Democrary’ y Berggruen Institute, cynhaliodd fy swyddfa ymgynulliad rhithwir o’r enw Lluniwch Eich Dyfodol a ddaeth â phobl ifanc ynghyd i ystyried strwythur, nodau ac amcanion y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol.

Ceisiodd yr ymgynulliad gynnwys gweithredwyr cymdeithasol ac amgylcheddol ifanc mewn proses gydgynghorol ynghylch gweithredu ar yr hinsawdd ar lefel leol a chenedlaethol. Un o’r mewnwelediadau allweddol gan gyfranogwyr oedd, o ystyried cwmpas ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, y dylid canolbwyntio ar “sicrhau Gwasanaeth Natur Cenedlaethol sy’n hygyrch i bawb.”

Darllenwch yr adroddiad llawn isod.