Mewn cydweithrediad â'r New Economics Foundation ac adeiladu ar ymchwil a wnaed gan TUC Cymru, rwyf wedi cyhoeddi dadansoddiad yn dangos potensial buddsoddi mewn swyddi a sgiliau gwyrdd ar gyfer adferiad lewyrchus, gwyrdd a chyfartal o'r pandemig COVID-19.

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar gyflogaeth a’r economi. Er ei fod yn heriol, mae’r sefyllfa’n rhoi cyfle i adeiladu’n ôl yn wahanol a cheisio gwella heriau hirsefydlog yng Nghymru.

Byddai ‘adferiad gwyrdd a chyfiawn’ yn anelu at ddarparu bywoliaethau o ansawdd da wrth gefnogi datgarboneiddio cyflym a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae hyn yn dibynnu ar gael y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar waith.

Mae prif ganfyddiadau’r adroddiad yn cynnwys:

  • Gellid creu dros 60,000 o swyddi yn yr economi werdd erbyn 2022 gyda buddsoddiad mewn seilwaith.
  • Fodd bynnag, nid yw’r biblinell sgiliau gyfredol yn barod ar gyfer y galw hwn gyda’n dadansoddiad yn awgrymu niferoedd prentisiaeth a hyfforddiant isel mewn sectorau allweddol o’i gymharu â thwf swyddi posibl.
  • Mae diffyg cyfatebiaeth rhwng lefelau cyflogaeth bresennol a’r potensial; mae lefel creu swyddi yn sylweddol o gymharu â’r niferoedd presennol.
  • Nid yw’r cyllid i ddelio â’r diffyg hwn yn ddigonol i ymdopi â’r galw a’r raddfa.
  • Mae angen gweithredu wedi’i dargedu a’i gynnal i sicrhau bod diwydiannau twf gwyrdd yn darparu mynediad i bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; menywod; pobl anabl a’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur.

Gellid tyfu sgiliau a chreu bywoliaethau mewn diwydiannau sy’n darparu llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae’r darlun hwn yn dangos y potensial mewn diwydiannau ar gyfer twf swyddi sylweddol a’r diffyg cyfatebiaeth gyfredol rhwng nifer y bobl sy’n gallu cyflawni’r rolau hyn.

Darllenwch fersiwn gryno ein dadansoddiad yma a’r dadansoddiad llawn yma.

Infographic