#60

Gwneud yn siŵr fod mynediad rhad ac am ddim i amgueddfeydd, llyfrgelloedd a llecynnau glas yn parhau

1

Problem

Cyhoeddodd cyllideb 2018/19 Llywodraeth Cymru doriadau i gyllideb Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, o £22.6m i £21.6m,er bod ymweliadau ag amgueddfeydd yn dod â £73.8 miliwn i’r economi, yn ogystal â chael manteision amhrisiadwy i’n llesiant. Mae cael mynediad i gelfyddydau, diwylliant a llecynnau glas yn llesol i lesiant pawb ohonom, yn unigolion a chymunedau.

2

Newid Syml

mae’n hanfodol fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n parhau i sicrhau fod mynediad i amgueddfeydd, llyfrgelloedd a llecynnau glas yn dal i fod yn rhad ac am ddim, er mwyn cefnogi’u cymunedau lleol i gael mynediad i’r amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd diwylliannol a gynigir iddynt yn y lleoedd hyn.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu,

You have earned...

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymru o gymunedau cydlynus,

You have earned...

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da