Gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi cynnal ymchwil ac Adolygiad Adran 20, i sefydlu i ba raddau y mae’r Ddeddf wedi bod yn llywio penderfyniadau caffael ar draws y cyrff cyhoeddus yng Nghymru er 2016 (pan ddaeth y Ddeddf i rym).

Amlinellir y prif ganfyddiadau o gam ymchwil y gwaith hwn yn y ‘Caffael dan y Chwydd Wydr’ yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020.

Cyhoeddwyd yr Adroddiad ‘Caffael llesiant yng Nghymru’ ar Chwefror 25ain 2021, gan egluro canfyddiadau allweddol, tynnu sylw at arfer da ac amlinellu argymhellion yn seiliedig ar Adolygiad Adran 20.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys canfyddiadau ac argymhellion yn benodol ar gyfer y naw corff cyhoeddus a oedd yn destun Adolygiad Adran 20. Mae’n cynnwys y rhai sy’n berthnasol i gyrff cyhoeddus a’r rhai sydd wedi’u cyfeirio’n bennaf at Lywodraeth Cymru yn rhinwedd ei swydd fel arweinydd. Mae gan y naw sefydliad ddyletswydd statudol (Adran 22 (4)) i gyhoeddi eu hymateb i’r argymhellion a wnaed gan y Comisiynydd yn yr adroddiad hwn. Anogir cyrff cyhoeddus i wneud hynny cyn pen 25 diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi’r argymhellion. Mae llawer o’r argymhellion yr un mor berthnasol i bob corff cyhoeddus a ddylai eu hystyried yn gyngor, a byddwn yn dilyn cynnydd fel rhan o ddyletswydd y Comisiynydd i ddarparu cyngor a chymorth ac i fonitro ac asesu sut mae cyrff cyhoeddus yn gwneud cynnydd tuag at eu nodau llesiant.

Mae yna ddogfen ‘fersiwn byr’ hefyd, sy’n crynhoi gweledigaeth y Comisiynydd ar gyfer caffael, gan nodi’r materion allweddol a amlygwyd gan gyrff cyhoeddus yn ystod yr ymchwil ac Adolygiad Adran 20, yn ogystal â’r argymhellion a amlinellir yn yr Adroddiad ‘Caffael llesiant yng Nghymru’.