Yn 2018-19, treialodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ddull o fonitro ac asesu cynnydd tuag at yr amcanion llesiant a osodwyd gan gyrff cyhoeddus – un o’i dyletswyddau yn ôl y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Roedd hyn yn gofyn i bersonau cyswllt a enwebwyd o bob corff cyhoeddus a gwmpesir gan y ddeddf i gyflwyno ffurflen offeryn hunan-fyfyrio wedi ei chwblhau, yn myfyrio ar y cynnydd yr oeddent wedi ei wneud yn ystod 2017-2018 ynghyd â thystiolaeth i gefnogi hyn. Gwnaeth pob un o’r 44 corff cyhoeddus gyflwyno ymateb a thystiolaeth i’r offeryn hunan-fyfyrio. 

Yn dilyn y treial a’r adborth oddi wrth gyrff cyhoeddus a phersonau cyswllt perthnasol mae’r Comisiynydd yn darparu fersiwn diwygiedig o’r offeryn hunan-fyfyrio fel cynnig i gyrff cyhoeddus. Roedd adborth cadarnhaol yn cynnwys datganiad yn dweud fod cwblhau’r offeryn hunan-fyfyrio wedi caniatáu i bobl ddwyn cydweithwyr at ei gilydd o’r sefydliad drwyddi draw i ddeall ar y cyd ac yn onest sut yr oedd y sefydliad yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni amcanion, gan geisio macsimeiddio cyfraniad i’r saith nod llesiant cenedlaethol o fewn y Ddeddf a defnyddio’r pum dull o weithio ar gyfer gwneud hynny. Mae rhai cyrff cyhoeddus yn bwriadu defnyddio’r dull hwn i greu eu hadroddiadau blynyddol a’u cynlluniau corfforaethol.   

Roedd y Comisiynydd o’r farn fod y treial yn hynod ddefnyddiol ar gyfer monitro ac asesu cynnydd, ond hefyd ar gyfer casglu enghreifftiau o arfer da ledled Cymru’n dangos sut mae’r Ddeddf yn cael ei defnyddio 

Rydym yn eich cynghori i ddefnyddio’r offeryn hunan-fyfyrio diwygiedig hwn mewn unrhyw ffordd sy’n ddefnyddiol i chi a buasem yn ddiolchgar petaech yn medru anfon y ddogfen hon yn ôl wedi ei chwblhau, cyn belled ag y bo modd, at y Comisiynydd (cyswlltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru) sy’n edrych ar eich cynnydd tuag at eich amcanion llesiant yn 2018/19. 

 

Defnyddio’r offeryn hunan-fyfyrio 

Gall unrhyw un ddefnyddio’r offeryn, nid oes canllawiau penodol ynghylch pwy ddylai gwblhau’r offeryn a’i anfon i’r Comisiynydd.   

Byddai’r Comisiynydd yn argymell ennyn ymgyfraniad unrhyw un â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant o fewn y maes yr ydych yn ymwneud ag ef, gan sicrhau fod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth   

Cyflwynir yr offeryn mewn dwy adran: 

  • Adran 1:  Ble ydym ni nawr: gan ddefnyddio’r fformat  ‘taith’, mae’r adran hon yn eich helpu chi i drafod y cynnydd tuag at eich nodau llesiant 
  • Adran 2: Awgrymiadau ar gyfer myfyrio: mae’r adran hon yn rhoi cwestiynau wedi eu bwriadu i’ch helpu i fyfyrio ar yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu ar gyfer symud ymlaen.   

Bydd yr offeryn myfyrio hwn felly’n eich galluogi i:   

  • Fyfyrio ar eich cynnydd hyd yn hyn yn erbyn eich amcanion llesiant chi eich hunain. 
  • Sefydlu meincnod mewnol yn erbyn yr hwn y gellir adolygu cynnydd y flwyddyn nesaf a blynyddau’r dyfodol. 
  • Ddarparu dull o gymharu cynnydd eich sefydliad â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac adnabod pa sefydliadau y gallwch ddysgu oddi wrthynt a rhoi gwersi iddynt. 
  • Fyfyrio ar gryfderau a gwendidau a rhestru’r gwersi lleol ar gyfer newid. 

 

Adnoddau i helpu  

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi rhai adnoddau y gallwch eu defnyddio fel offer pan fyddwch yn myfyrio ar y cynnydd yr ydych yn ei wneud tuag at gyflawni eich amcanion, fel pwynt cyfeirio ac i roi syniadau i chi am beth arall y gallech fod yn ei wneud ar gyfer symud ymlaen. 

  • Gwireddu ‘Y Gallu i Greu’: cyfres o deithiau tuag at bob un o’r nodau llesiant ac ‘ymgyfraniad’. 
  • Ystyried senarios y dyfodol: canllaw ar gyfer defnyddio  model ‘Three Horizons’ Fforwm Rhyngwladol y Dyfodol (allan yn fuan). 
  • Datblygu cynigion, cynllunio gwasanaethau a gwneud/craffu ar benderfyniadau: